Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 18 Ionawr 2023.
Prynhawn da, Weinidog. Rwyf wedi edrych ar dystiolaeth Sefydliad Bevan i'r Pwyllgor Cyllid. Nodaf y pwynt, a dyfynnaf,
'nad yw mesurau tymor byr i leddfu pwysau costau byw yn gyfystyr â chamau gweithredu i leihau tlodi'.
A gwnaethant nodi y bu cyfyngiadau ar fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol ac effeithlonrwydd ynni. Nawr, ar wahân i'r angen i gyflwyno rhaglen Cartrefi Clyd newydd, dylid canolbwyntio ar sicrhau bod eiddo newydd ar gael sy'n effeithlon o ran ynni ac yn gynnes. Yn Abertawe, fodd bynnag, dim ond 91 o gartrefi a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a 18 gan Gyngor Abertawe, yn 2021-22. A gwyddom eisoes fod Cyngor Abertawe yn gyngor sy'n methu cyrraedd ei dargedau tai yn fwy cyffredinol. Felly, Weinidog, pa ymdrechion uniongyrchol rydych yn eu gwneud i gau'r bwlch tai yn Abertawe, i sicrhau bod mwy o fy etholwyr yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn?