Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Ionawr 2023.
Credaf fod hwn yn faes lle mae’n debyg fod gennym fwy o dir cyffredin, gan fod hwn yn waith y buom yn ei wneud gydag awdurdodau lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ar eu cais hwy, i archwilio pa feysydd cyllid grant y gellid eu symud, o bosibl, i mewn i'r grant cynnal refeniw ar sail tymor byr neu barhaol. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond rydym wedi llwyr ymrwymo i edrych ar hynny. Bydd amserlenni, wrth gwrs, yn bwysig ar gyfer y gwaith hwnnw. Ond hoffwn roi sicrwydd i chi a chyd-Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hyn fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion CLlLC ac yn siarad â thrysoryddion ledled Cymru i archwilio'r hyn a allai fod yn bosibl.