Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:58, 18 Ionawr 2023

Ie, diolch ichi am yr ateb. Wrth gwrs, mi wnaeth y Gweinidog iechyd bwyntio bys ychydig ar y cyhoedd ynglŷn â chyfrifoldeb y cyhoedd i fod yn fwy gofalus am eu hiechyd ac i wneud mwy o ran ymarfer corff ac i fwyta'n iachach ac yn y blaen. Roeddwn i'n teimlo bod hynny efallai—bod pwyntio bys at y cyhoedd ynglŷn â thrafferthion yr NHS braidd yn hallt, ond dwi'n deall y pwynt yr oedd hi'n ei wneud. Ond, wrth gwrs, dyw'r Llywodraeth ei hunan ddim yn helpu yn hynny o beth, oherwydd rŷn ni wedi sôn am y toriadau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, wrth gwrs—mae canolfannau hamdden yn cau, mae rhaglenni iechyd cyhoeddus yn cael eu torri. Felly, ydych chi'n cytuno â fi bod yna wrth-ddweud, bod yna contradiction mawr yn fan hyn, lle ar un llaw mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Gwnewch fwy i fyw yn iach', ac, ar y llaw arall, mae diffyg ariannu o gyfeiriad y Llywodraeth yn golygu bod y canolfannau hamdden, bod y rhaglenni iechyd cyhoeddus, bod y gefnogaeth sydd yna i helpu pobl i wneud hynny yn cael eu torri?