Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch am y cwestiwn hwnnw ac rwyf innau hefyd wedi cael cyfarfod da iawn gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a siaradodd yn angerddol iawn am botensial cymunedau sydd o blaid pobl hŷn. Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru, ar gyfer 2023-24, drwy'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol yn darparu grant o £50,000 i bob awdurdod lleol, fel eu bod yn gallu penodi swyddog arweiniol i gefnogi eu gwaith tuag at fod yn rhan o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o gymunedau a dinasoedd sydd o blaid pobl hŷn. Gwn y byddai'r Dirprwy Weinidog yn fwy na pharod i ddarparu gwybodaeth fanylach am y gweithgareddau sy'n digwydd yn lleol.