Gwasanaethau Anstatudol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:17, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n deall mai mater iddynt hwy yw blaenoriaethu, ond fel y clywsom gan nifer o'r Aelodau, mae yna bryder ynghylch yr elfennau anstatudol. Rydym yn gweld ymgynghoriadau ar y gyllideb yn fy rhanbarth ar hyn o bryd lle mae gennych chi gwestiynau fel, 'A ydych chi eisiau amgueddfa neu lyfrgell, neu a ydych chi eisiau gofal cymdeithasol?' Wrth gwrs fod pobl yn mynd i ddewis y gwasanaethau hynny, ond mae hefyd yn bychanu rôl bwysig a gwerthfawr llyfrgelloedd ac amgueddfeydd. Rydym yn gweld y bygythiad i Amgueddfa Caerdydd, a arferai gael ei galw'n Amgueddfa Stori Caerdydd. Rydym yn meddwl hefyd am fudd economaidd sefydliadau o'r fath. Felly, a gaf fi ofyn—? Rwy'n gwybod mai mater i awdurdodau lleol ydyw, ond mae'n fater o bryder cenedlaethol os ydym am gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, os ydym am sicrhau bod pobl yn cael budd o ddiwylliant a chwaraeon, y gwyddom eu bod mor hynod o werthfawr, o ran iechyd a lles, i ddiogelu ein GIG. Beth yw rôl y Llywodraeth ar wahân i ddweud ei fod yn fater i awdurdodau lleol? Rhaid bod rôl o ran yr elfennau anstatudol hefyd os ydym am gyflawni Deddf cenedlaethau'r dyfodol.