Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 18 Ionawr 2023.
Cafodd £260 miliwn ei ymrwymo i weithredu'r rhaglen darparu prydau ysgol am ddim i bawb dros y tair blynedd nesaf. Rwy'n rhagweld y bydd y cyllid hwn yn ddigonol i'r mwyafrif o awdurdodau lleol, ond rwyf wedi addo y bydd unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu hasesu fesul achos.