Newid Hinsawdd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:07, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno bod gan awdurdodau lleol rôl bwysig a photensial pwysig yn hynny o beth, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymgysylltu â hwy mewn perthynas â datblygu gwaith Unnos, a gobeithio y bydd hi'n sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael i gyd-Aelodau ar ddatblygiad y gwaith hwnnw cyn bo hir iawn. Felly, efallai y byddai hwnnw'n gyfle i archwilio hynny'n fanylach.

Ni chaf fy nhemtio i ymateb ychwaith ar y pwynt a wnaethoch ynglŷn â ffurfiadau llywodraeth leol, ac rwy'n sylweddoli fy mod heb ymateb i bwynt y llefarydd cyllid ar y cyd-bwyllgorau corfforedig, ond fe ddaw cyfleoedd eraill.