Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl ddiddorol iawn hon, a diolch i chi, Janet, am ei chyflwyno. Ac mae pawb yn hollol gywir: mae'r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn defnyddio'r holl arfau sydd ar gael i ni i gyflymu cynnydd tuag at system ynni sero net. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i symud ein system ynni oddi wrth danwydd ffosil a thuag at ynni adnewyddadwy, fel llwybr hanfodol i gyflawni ein targedau statudol a'n rhwymedigaethau rhyngwladol fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Felly, ochr yn ochr â datblygiadau ynni adnewyddadwy eang, mae'n debygol y bydd gan hydrogen rôl arwyddocaol yn sectorau pŵer, trafnidiaeth a diwydiant Cymru yn y dyfodol ac mae'n bosibl y bydd hefyd yn cynnig dewis arall yn lle tanwydd ffosil yn ein systemau gwresogi. Mae ein hymgysylltiad â diwydiant yng Nghymru, a thrwy ein panel diwydiant sero net Cymru sydd newydd ei sefydlu, yn tynnu sylw at y ffaith bod gan hydrogen botensial enfawr i leihau allyriadau a chefnogi'r pontio economaidd, yn enwedig yn y diwydiannau ynni-ddwys. I rai, caiff hydrogen ei ystyried yn allweddol yn eu map ffordd tuag at sero net. Mae trafnidiaeth yn faes posibl arall lle gellid ei ddefnyddio, yn enwedig ar gyfer rhai cerbydau nwyddau trwm, rheilffyrdd, a hedfan, o bosibl, a fferis yn wir, fel y nododd Rhun. Ac ar gyfer y sector pŵer, gall hydrogen weithredu fel fector ynni hyblyg i gymryd lle'r rhan a chwaraeir gan beiriannau sy'n defnyddio nwy mewn systemau ynni adnewyddadwy.
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o gynlluniau RWE yn sir Benfro a'u huchelgais i symud oddi wrth nwy drwy ddefnyddio hydrogen o ynni adnewyddadwy i gefnogi eu huchelgeisiau sero net. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddatblygu a manteisio ar y cyfleoedd economaidd sy'n datblygu'n gyflym a gynigir gan hydrogen, yn enwedig o'u cysylltu â'r potensial ar gyfer gwynt ar y môr, gan gynnwys y môr Celtaidd a môr Iwerddon. Fodd bynnag, fel y soniais o'r blaen yn y Siambr hon, wrth inni geisio datgarboneiddio ein sectorau, mae'n hanfodol nad ydym yn creu cymhellion sy'n ein cadw'n gaeth i ddibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil. Felly, er fy mod yn cydnabod bod modd i rai sectorau bontio i ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir o danwydd ffosil, rhaid iddo fod yn bontio cyflym dros ben. Mae'n rhaid inni symud at ddefnyddio hydrogen gwyrdd yn unig cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, a dyna pam mae'n rhaid i ddatblygiad hydrogen fod yn rhan o ymdrech lawer ehangach i fwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy. Rhaid manteisio ar gyfleoedd cynhyrchiant ynni adnewyddadwy i gynhyrchu hydrogen pan fydd y cyflenwad yn fwy na'r galw. Felly, yn hytrach na thalu gweithredwyr ffermydd gwynt i roi'r gorau i gynhyrchu, dylem eu talu i ddarparu ffynhonnell o ynni adnewyddadwy y gellir ei storio a'i defnyddio pan fydd angen.
Rydym hefyd yn gwybod bod ansicrwydd o ran cost a thechnoleg ynghlwm wrth ddefnyddio hydrogen yn y system ynni. Rydym mewn argyfwng costau byw, a gafodd ei ysgogi'n rhannol gan gostau ynni uchel, felly mae'n rhaid inni sicrhau bod ein dull o ddatgarboneiddio ein system ynni yn un sy'n deg i'r holl ddefnyddwyr, gan gynnwys busnesau yng Nghymru. Dyna pam mae cefnogi arloesedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod hydrogen a mathau eraill o ynni carbon isel yn cyfrannu at ein cynllun Cymru Sero Net ac yn cefnogi adfywiad economaidd a chymdeithasol ein cymunedau.
Drwy arloesi, gallwn gyflymu'r gostyngiadau angenrheidiol i'r gost a'r defnydd o hydrogen gwyrdd ar raddfa fawr, pethau sydd eu hangen yn fawr. Cefnogodd iteriad cyntaf ein cynllun menter ymchwil busnesau bach hybrid, Byw'n Glyfar, 17 o brosiectau dichonoldeb ac arddangos hydrogen ledled Cymru. Mae'r 17 prosiect ym mlwyddyn gyntaf y cynllun yn cyflawni ym mhob rhanbarth yng Nghymru, fel y mae sawl Aelod wedi nodi. Maent yn amrywio o astudiaethau o gynhyrchiant hydrogen microwyrdd, hydrogen mewn ardaloedd gwledig, cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy, datblygu'r farchnad gerbydau, cynhyrchiant hydrogen yn y gymuned ac un platfform digidol cyngor a rhwydweithio hydrogen.
Bydd ein hail gam o'r cynllun hybrid yn ariannu ffrwd o brosiectau dichonoldeb busnes, yn ogystal â gwaith arddangos lefel uwch a phrototeipio ar lawr gwlad ledled y wlad, a'n bwriad yw creu ffrwd i fusnesau newydd yng Nghymru, i gefnogi perchnogaeth leol a chadw cyfoeth ar draws Cymru. Wrth inni wneud hynny, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU ac rydym eisoes wedi llwyddo i ddenu cyllid y DU ar sail ein buddsoddiad. Ac er ein bod yn croesawu'n fawr y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, os ydym am gyflawni'r uchelgeisiau ar gyfer 10 GW erbyn 2030, mae angen mwy o arian ar frys. A dyma lle rwy'n cytuno â chanfyddiadau adolygiad Skidmore fod angen i Lywodraeth y DU gadarnhau cyllid hirdymor i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu hydrogen ar raddfa fwy. Ac rwy'n gobeithio, Janet, y byddwch yn cyflwyno sylwadau cryf i'ch cymheiriaid yn San Steffan, yn sgil adolygiad rhagorol Chris Skidmore, i sicrhau bod lefel fwy o gyllid ar gael i gefnogi prosiectau hydrogen yn y dyfodol ar draws pob rhan o'r DU.
Rydym wedi cefnogi rhanddeiliaid Cymru gyda'u ceisiadau am gyllid y DU, a byddwn yn dysgu gwersi o dreialon gwresogi drwy ddefnyddio hydrogen mewn rhannau eraill o'r DU. Ac yn y cyfamser, byddwn yn asesu rôl hydrogen i wresogi yn ein strategaeth gwres, a fydd yn cael ei chyhoeddi eleni, ac fel rhan o'n gwaith cynllunio ynni.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn natblygiad y sector newydd hwn ac yn nodi ein dull strategol o wneud i hynny ddigwydd. Mae ein llwybr hydrogen yn nodi 10 amcan, sy'n canolbwyntio ar gamau gweithredu tymor byr, ysgogi'r galw, cynhyrchiant a chamau trawsbynciol hyd at 2025. Maent hefyd yn amlinellu llwybrau i gynllunio ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy er mwyn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda mewn perthynas â thechnoleg hydrogen a chelloedd tanwydd. Wrth inni adeiladu ar y llwybr hwnnw, credwn y bydd hyn yn darparu'r ffocws strategol sydd ei angen arnom i wneud yn siŵr fod gan hydrogen, ac y bydd gan hydrogen ran bwysig i'w chwarae er mwyn cyrraedd sero net a gwneud yn siŵr fod Cymru mewn sefyllfa dda i fod ar y blaen yn y sector hwn sy'n datblygu. Diolch.