Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 18 Ionawr 2023.
Mae cyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050 yn her sylweddol iawn. Mae angen gweithredu ar frys ar draws yr economi. Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol wedi dweud bod angen
'ymgyrch ddigynsail i sicrhau technoleg lân rhwng nawr a 2030'
Rydym i gyd yn gwybod bod gan hydrogen rôl allweddol iawn i'w chwarae. Fel y nododd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ'r Cyffredin,
'mae iddo nodweddion unigryw fel tanwydd sy'n llosgi'n lân y gellir ei storio am amser hir a chynhyrchiant y gellir ei ddatblygu ar raddfa fawr drwy sawl dull carbon isel. Mae hyn yn galluogi hydrogen i chwarae rhan yn y broses o ddatgarboneiddio ein defnydd o ynni, a hefyd i ddarparu mwy o wytnwch yn ein system ynni, a chynyddu diogelwch ffynonellau ynni'r DU.'
Nid oes amheuaeth y gallai hydrogen carbon isel fod yn ateb yn lle'r tanwyddau carbon dwys a ddefnyddir heddiw a bod Cymru mewn sefyllfa dda i fod yn bwerdy hydrogen. Ceir cymaint o brosiectau cyffrous ar draws ein gwlad. Mae clwstwr diwydiannol de Cymru yn edrych ar gynhyrchu a chludo hydrogen a dal a defnyddio carbon deuocsid ar raddfa fawr. Mae RWE yn datblygu prosiect hydrogen gwyrdd ar safle eu gorsaf bŵer bresennol ym Mhenfro. Mae'n gynllun gwych. Er enghraifft, bydd hydrogen gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddefnyddio trydan o ynni adnewyddadwy yn cael ei ddefnyddio gan ddiwydiant lleol ac fel tanwydd ar gyfer cerbydau nwyddau trwm a gaiff eu pweru gan hydrogen yn y dyfodol. Mae ERM Dolphyn a Source Energy wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu safleoedd gwynt arnofiol hydrogen gwyrdd ar raddfa gigawat yn y môr Celtaidd. Mae HyNet yn mynd i dorri chwarter o'r carbon deuocsid sy'n cael ei ollwng o bob rhan o'r rhanbarth drwy gloi'r carbon deuocsid a allyrrir gan ddiwydiant trwm a darparu hydrogen carbon isel a gynhyrchir yn lleol i'r diwydiant pŵer a thrafnidiaeth a gwresogi cartrefi a busnesau. Mae arloeswr tanwydd hydrogen o Lannau Dyfrdwy bellach wedi sicrhau bron i £250,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU i berffeithio technoleg dal carbon a fydd yn helpu i ostwng effaith amgylcheddol ei safleoedd gwastraff-i-hydrogen, ac ni allwn anghofio bod cynlluniau ar gyfer hyb hydrogen ar Ynys Môn wedi cael eu cymeradwyo, gan baratoi'r ffordd ar gyfer y datblygiad cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu strategaeth sy'n nodi sut y bydd y Llywodraeth Geidwadol yn ysgogi cynnydd yn y 2020au tuag at gyflawni ein huchelgais i gynhyrchu 5 GW erbyn 2030.
Fodd bynnag, Aelodau, Lywydd a Weinidog, rhaid dweud bod yr Alban a Chymru'n llai uchelgeisiol. Mae cynllun gweithredu hydrogen yr Alban ond yn darparu camau sydd i'w cymryd dros y pum mlynedd nesaf, ac yma yng Nghymru rydym yn ddibynnol ar lwybr hydrogen sydd ond yn llywio gweithgaredd a fydd yn digwydd yn y tymor byr, hyd at 2025. Dim syndod, felly, fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd fis Mehefin diwethaf yn cynnwys canfyddiadau fel ymatebwyr niferus yn nodi eu bod yn teimlo bod y llwybr ond yn ymdrin â nodau tymor byr ac y dylai fod yn fwy uchelgeisiol. Teimlent fod angen strategaeth hirdymor i'w gwneud hi'n bosibl cyflwyno'r economi hydrogen ac adeiladu marchnad hirdymor ar gyfer prosiectau carbon isel. Ac awgrymodd nifer o'r ymatebwyr nad oedd y llwybr yn cynnwys digon o fanylion ac uchelgais mewn rhai meysydd lle mae disgwyl i hydrogen chwarae rhan allweddol yn y system ynni yn hirdymor: datgarboneiddio diwydiant, ar gyfer gwresogi adeiladau, ac fel ateb storio ynni gan ganiatáu mwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy ysbeidiol.
Weinidog, mae hyd yn oed eich Llywodraeth eich hun yn datgan yn y crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac rwy'n dyfynnu,
'amcan y Llwybr oedd diffinio cyfres o amcanion tymor byr, gan ganolbwyntio ar gamau gweithredu a phrosiectau y gellir eu gweithredu ar ddechrau'r 2020au. Nid yw'r ddogfen yn strategaeth gynhwysfawr ar gyfer hydrogen yng Nghymru (ac ni fwriadwyd iddi fod); yn hytrach, roedd yn ceisio diffinio cyfres o gamau diedifar i roi Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar y buddion amrywiol y gall mwy o ddefnydd o hydrogen eu cynnig.'
Felly, ble mae'r strategaeth gynhwysfawr fwy hirdymor ar gyfer arloesedd hydrogen yng Nghymru? Ochr yn ochr ag ymgorffori'r holl weithgareddau gwych sydd eisoes yn digwydd, byddai gennyf ddiddordeb penodol mewn gweld y strategaeth yn cynnwys adrannau sy'n gosod uchelgeisiau ar gyfer hydrogen mewn cymunedau, ac ym meysydd trafnidiaeth a chynllunio.
Mae cymunedau yn yr Alban ac yn Lloegr yn profi newid. Mewn rhai achosion, dim ond newidiadau cyfyngedig sydd eu hangen i bibellau nwy a chartrefi i hydrogen gael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi, dŵr poeth a choginio. Mewn gwirionedd, nid yw defnyddio hydrogen yn y rhwydwaith nwy yn gysyniad cwbl newydd. Arferai hydrogen lifo drwy bibellau'r wlad fel rhan o nwy trefol cyn y 1960au, ac erbyn hyn yn Lloegr, yn Whitby yn Ellesmere Port, bydd eiddo yn y pentref hydrogen a gadarnhawyd yn cael ei ddarparu gyda chynnig am ddim i uwchraddio boeler nwy i'w wneud yn barod ar gyfer hydrogen, a bydd hydrogen yn cael ei gyflenwi o 2025. Yn yr un modd, yn yr Alban eleni, bydd 300 o gartrefi yn Buckhaven and Methil yn cael eu pweru gan hydrogen gwyrdd. Ond Weinidog, Aelod o Senedd Cymru wyf i. Beth am ein cymunedau yma yng Nghymru? Dylem i gyd yma anelu at weld treial cymdogaeth hydrogen yn cael ei gyflwyno, a chael ei ddilyn cyn gynted â phosibl gan dreial pentref hydrogen mawr a pheilot trefol erbyn diwedd y degawd.
O ran trafnidiaeth, rwyf wedi cyfeirio'n barod at gerbydau nwyddau trwm ac mae'n rhaid imi gydnabod bod denu integreiddwyr cerbydau i Gymru a datblygu trenau celloedd tanwydd yn rhan o gamau gweithredu a argymhellir gan eich llwybr eich hun. Fodd bynnag, beth yw ein huchelgais ar gyfer cerbydau preifat? Fel y bydd fy nghyd-Aelod James Evans AS yn gwybod yn well na'r rhan fwyaf, mae Riversimple yn arloesi gyda'r genhedlaeth nesaf o gerbydau dim allyriadau. Maent yn defnyddio hydrogen, nid batris, ac nid ydynt yn allyrru unrhyw beth ond dŵr. Mae Green Tomato Cars yn gweithredu fflyd o 50 o gerbydau hydrogen yn Llundain, ac mae DRIVR yn rhedeg fflyd o 100 o dacsis hydrogen yn Copenhagen. Felly, byddwn yn falch iawn o weld cymhellion ar gyfer fflydoedd tacsis hydrogen yma yng Nghymru.
Mae angen inni ystyried cael gwared ar rwystrau i geir hydrogen at ddefnydd preifat. Mewn gwirionedd, cafwyd newyddion da yn ddiweddar, gan fod cyllid Llywodraeth y DU bellach yn mynd tuag at brosiect Toyota i greu fersiwn sy'n cael ei phweru gan gelloedd tanwydd hydrogen o'u fan Hilux fyd-enwog. Fodd bynnag, eisoes ar y farchnad Brydeinig mae Toyota Mirai a Hyundai Nexo, felly gallem fod yn cefnogi ein trigolion i fuddsoddi yn y dulliau teithio gwyrdd hynny. Yn 2021, cafodd y cwmni fferi Norwyaidd, Norled, gyflenwad o fferis hydrogen hylifol cyntaf y byd, MF Hydra. Mae lle ar y fferi i 300 o deithwyr ac 80 o geir. Mae Norwy wedi bod yn gwneud gwaith arloesol i ddangos dichonoldeb hydrogen fel tanwydd ar gyfer llongau teithwyr. Oni fyddai'n anhygoel pe bai gennym uchelgais i weithio gyda Llywodraeth Iwerddon a'r sector preifat i weld llongau sy'n cael eu pweru gan hydrogen yn hwylio rhwng ein porthladdoedd?
Yn olaf, mae angen sicrhau bod ein hawdurdodau cynllunio yn cael eu cefnogi'n briodol i gymeradwyo cynlluniau hydrogen yn gyflym. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol fod ymatebion i'ch ymgynghoriad yn cynnwys pryderon am y drefn gynllunio yma yng Nghymru. Roedd rhai wedi nodi bod amserlenni cynllunio hirdymor yn achosi oedi mawr i gomisiynu prosiectau ar raddfa fwy, gan ychwanegu risg ychwanegol ddiangen. Byddai'n wych clywed heno a ydych wedi archwilio atebion posibl i bryderon ynglŷn â chynllunio. Yn y pen draw, dylem gael gwared ar yr holl rwystrau posibl i ddatblygiad hydrogen, yn enwedig hydrogen gwyrdd, er mwyn iddo chwarae rhan bwysicach fyth yng Nghymru. Yn y bôn, gallech wneud mwy i helpu drwy greu strategaeth hydrogen briodol i Gymru. Weinidog, yn eich ymateb rwy'n gobeithio y byddwch yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'r ddadl hon. Bydd cyfraniadau eraill gan Aelodau eraill heno yn profi i chi pa mor bwysig yw hi ein bod yn cynnwys hydrogen o ddifrif yn ein hymgyrch i gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy, di-garbon. Diolch.