Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:50, 18 Ionawr 2023

Ie, un peth sydd ddim ymhlyg yn yr hyn rŷch chi wedi cyfeirio ato fe fanna wrth gwrs yw mai un mesur pwysig, yn ôl llawer o'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig sydd wedi bod yn craffu ar y Bil yma, yw i ba raddau y mae'r Bil yn helpu i amddiffyn ffermydd teuluol. Pan fo gyda chi rwydwaith o ffermydd teuluol, ŷch chi'n llwyddo i wrthsefyll y symudiad tuag at ffermio ar sgêl fwy—mae'n dueddol o fod yn ffermio mwy dwys—felly, mae hynny'n well i'r amgylchedd. Rŷch chi'n fwy tebygol o gadw'r bunt yn lleol drwy ffermydd teuluol. Mae e hefyd, wrth gwrs, yn fesur pwysig o safbwynt hyfywedd y Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig hynny. Ydych chi, felly, yn cytuno bod nifer y ffermydd yng Nghymru yn faromedr pwysig ac y byddai gweld gostyngiad yn y nifer hynny yn arwydd o fethiant?