Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Ionawr 2023.
Rwy'n ymwybodol o'r boblogaeth gathbysgod ym mhwll Brickfield yn y Rhyl. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chlwb genweirio Brickfield, sydd wedi bod wrthi'n cael gwared ar gathbysgod. Maent yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi unrhyw gathbysgod sy'n cael eu dal yn ôl yn y dŵr neu eu symud i unrhyw grynofa ddŵr arall.