Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 18 Ionawr 2023.
Fel y dywedodd CNC wrthych, pe baem yn cael gwared ar yr holl gathbysgod yn y pwll hwnnw, ni fyddech yn gallu gwneud hynny heb gael gwared ar yr holl bysgod eraill. Felly, rwy'n deall yr wybodaeth a roddwyd i chi gan CNC yn iawn. Fy nealltwriaeth i yw bod pwll Brickfield yn rhan o hen chwarel ac yn grynofa ddŵr annibynnol. Nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw ffynonellau eraill o ddŵr croyw, felly mae hynny'n golygu nad yw'n bosibl i'r cathbysgod ledaenu i ardaloedd eraill, gan leihau risg ehangach.