Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae'r gylfinir yn aderyn tir fferm a rhostir eiconig. Rwy'n falch eich bod yn parhau i'w hyrwyddo. Roeddwn i fod i gyfarfod â Gylfinir Cymru ac yn anffodus bu'n rhaid imi ohirio'r cyfarfod. Ni allaf gofio'n iawn pam, ond fe wnaf yn siŵr fy mod yn aildrefnu'r cyfarfod hwnnw, oherwydd yn sicr mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud.
Rydych yn hollol gywir am goed ac yn sicr os ydym am gyflawni ein hymrwymiadau sero net, rydym wedi cael gwybod mewn termau clir iawn gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU fod angen inni gynyddu ein targedau plannu coetiroedd yn sylweddol.
Rydych yn cyfeirio at atalyddion cebl trugarog ac fel y gwyddoch, rydym yn ceisio gwahardd maglau ac atalyddion cebl trugarog ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru) 2022, ac mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud ag atal y defnydd o ddulliau creulon, ac nid yw'n atal y defnydd o ddulliau eraill sy'n fwy trugarog.