Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 18 Ionawr 2023.
Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol. Lluniwyd yr amcanion i fod yn gydategol, gan adlewyrchu ein dull o gefnogi cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y sector amaethyddol yng Nghymru.