Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch. Bûm yn ymweld â'r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yn Gelli Aur ddwywaith fy hun i glywed am y gwaith anhygoel sydd ar y gweill, ac roedd yn braf gweld cymaint o gynnydd wedi'i wneud rhwng fy nau ymweliad. Rwy'n croesawu'r ymchwil sydd wedi'i wneud yno yn fawr. Gallaf weld addewid mawr i alluogi ein ffermydd i ddefnyddio'r maethynnau a geir mewn tail yn llawer mwy effeithlon. Mae gwahanu slyri a rheoli'r maethynnau sydd wedi'u gwahanu yn rhoi cyfle, rwy'n credu, yn enwedig yng ngoleuni'r prisiau gwrtaith uchel a welsom dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac mae hynny'n sicrhau y gellir ychwanegu maethynnau gwerthfawr at dir lle ceir prinder maethynnau fel y gallant gynyddu ei wytnwch a lleihau'r ddibyniaeth ar wrteithiau wedi'u gweithgynhyrchu. Rwy'n credu y bydd y gwaith a wneir ar y cynlluniau rheoli maethynnau, gyda gwasgariad manwl y deunyddiau sydd wedi'u gwahanu, hefyd yn helpu i sicrhau bod y maethynnau cywir yn cael eu gwasgaru ar yr adeg gywir, ac wrth gwrs, mae hynny'n hanfodol os ydym am leihau'r risg o lygredd.