Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 18 Ionawr 2023.
Dywedodd yr Athro Mark Barry, a oedd yn un o'n tystion, ac sy'n arbenigwr ar drafnidiaeth, fod Cymru heb gael tegwch gan ecosystem y diwydiant rheilffyrdd dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf o ran buddsoddiad a chyllid gwella. Mae hynny'n mynd â ni'n ôl i tua 1980, felly mae hon yn broblem a achoswyd gan weinyddiaethau Ceidwadol a Llafur. Ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU yn anodd iawn i'w dilyn o safbwynt rhesymeg unrhyw un o'u dadleuon. Mae dadlau na ddylai'r buddsoddiad HS2 gwerth £52 biliwn greu unrhyw arian canlyniadol i Gymru yn nonsens llwyr. Mae'n ei gwneud yn anodd iawn gweld a ydym yn mynd i allu cael perthynas aeddfed gyda hwy ai peidio, oherwydd, er gwaethaf y ddadl wag honno, maent eto i uwchraddio'r seilwaith ar y brif linell reilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae hynny'n destun pryder arbennig i'r ardal rwy'n ei chynrychioli, gan fod cynllun Burns ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru yn rhagdybio mai dwy o'r pedair llinell reilffordd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin fydd asgwrn cefn y cynnig hwnnw. Nid oedd Gweinidog yr economi yn gallu ein goleuo mewn unrhyw fodd ddoe, felly byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Dirprwy Weinidog yn gallu nodi a fu unrhyw lygedyn o obaith y bydd Llywodraeth Rishi Sunak yn rhoi ystyriaeth fwy difrifol i'r mater. Oherwydd mae'n fater o gyfiawnder mewn gwirionedd, yn ogystal â rhywbeth a ddylai ennyn ei sylw os yw am gadw'r DU gyda'i gilydd. Felly, mae hynny'n gwbl allweddol i mi.
Rwy'n credu mai'r mater arall yw'r diwydiant bysiau. Rwy'n falch iawn o glywed gan Janet Finch-Saunders fod bysus Fflecsi yn gweithio i fyny yng ngogledd Cymru. Ac mae hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd gallai hwnnw fod yn fodel i rywle arall lle nad oes cymaint o grynodiad o bobl. Mae'n rhaid imi ddweud bod y buddsoddiad y llwyddasom i'w sicrhau yng Nghaerdydd a Chasnewydd ar gyfer bysus trydan wedi gwella ansawdd aer yr ardaloedd yn aruthrol, oherwydd nid ydynt yn chwydu diesel erchyll bellach. Felly, mae hynny wedi bod yn wych. Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru, sydd wedi grymuso awdurdodau lleol i fwrw ati i wneud cais am yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen i awdurdodau lleol eraill wneud mwy yn ei gylch.
Ar y ddadl wirioneddol ddifrifol ynglŷn â sut y cawn bobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n amlwg fod llawer iawn o waith i'w wneud. Yn y seminar a drefnwyd gan y sefydliad trafnidiaeth gyhoeddus y cymerodd Llyr ran ynddi—ni allwn fynd iddi—clywais fod rhywun wedi awgrymu nad oedd modd prisio pobl allan o ddefnyddio'u ceir oherwydd byddai'n rhaid iddynt godi'r gost o redeg car fwy na £250 cyn y byddai pobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'u ceir a newid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid imi gymryd yn ganiataol fod y ffigur hwnnw gryn dipyn yn uwch bellach, gan fod yswiriant wedi codi'n aruthrol ac mae prisiau petrol wedi codi'n aruthrol. I'r rhan fwyaf o bobl, rhaid ei fod wedi mynd y tu hwnt i £250. Felly, mae hynny'n gyfle i ni, yn ogystal â bygythiad—[Torri ar draws.] Ie.