Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 18 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob cyd-Aelod am ddadl ddiddorol. Rwy'n credu bod achos cyffredin, eto, yn y Siambr hon, dros wella realiti trafnidiaeth gyhoeddus a chyflawni ein dyhead cyffredin o newid dulliau teithio i fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd. Mae hi ychydig yn rhwystredig, ac rwy'n ymwybodol o'r eironi, imi glywed y rhestr o broblemau y mae'r Aelodau wedi'u nodi y prynhawn yma, pwyntiau rwy'n cytuno â hwy ac rwyf wedi bod yn eu gwneud ers blynyddoedd lawer fy hun, a fy mod erbyn hyn mewn sefyllfa lle rwy'n ceisio troi'r heriau'n atebion, ac mae'n amlwg yn haws dweud na gwneud gyda'r pethau hyn.
Rydym yn wynebu pwysau mawr ar hyn o bryd. Mae gennym gostau cynyddol—felly, mae pob cynllun a weithredwn yn costio mwy i'w ddarparu—ac mae ein cyllid yn gostwng, sy'n rhwystredig iawn, ar adeg wrth gwrs pan nad yw'r sector trafnidiaeth gyhoeddus, y rhwydwaith rheilffyrdd a'r rhwydwaith bysiau, wedi adfer ers y pandemig. Felly, mae'n costio mwy i redeg gwasanaethau. Ac rydym wedi achub y diwydiant bysiau preifat rhag mynd i'r wal yn barhaus drwy'r pandemig, drwy ein cynllun brys ar gyfer y sector bysiau. Mae disgwyl i hwnnw gael ei adnewyddu yn y misoedd nesaf, ac mae gennym lai o arian. Rwy'n poeni'n wirioneddol am yr effaith y bydd y cyllid yn ei gael ar grebachu ein rhwydwaith bysiau. Ac fel y mae'r Aelodau wedi'i nodi, mae'r diwydiant bysiau yn wynebu problemau recriwtio a chadw gyrwyr bysiau ei hun, yn ogystal â chostau tanwydd cynyddol, ac rwy'n pryderu nad yw'r gwasanaethau hyn yn gweithredu eisoes yn aml, ac mae Sioned Williams wedi rhoi enghraifft dda i ni ym Mhontypridd—maddeuwch i mi, Heledd Fychan a roddodd yr enghraifft i ni ym Mhontypridd—o fysiau ddim yn dod. Felly, yn hollol amlwg, mae cwmnïau bysiau yn ei chael hi'n anodd cynnal eu hamserlen bresennol, a fy mhryder i yw, gan fod rhaid i ni gwtogi ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, oherwydd ein bod yn dod allan o'r pandemig ac am nad yw'r cyllid ar gael, y byddant yn ein beio ni am grebachu'r rhwydwaith bysiau er mai ni wnaeth achub y rhwydwaith bysiau yn y lle cyntaf wrth gwrs. Mae hyn, rwy'n credu, yn mynd at wraidd methiannau'r model preifat sydd gennym.
Cododd Alun Davies yr enghraifft wych o broblem ysbyty'r Faenor unwaith eto, lle cafodd ysbyty ei adeiladu yn y lle cyntaf heb ystyried trafnidiaeth gyhoeddus. Yma, mae gennym ddiffyg cysylltiad rhwng gwahanol wasanaethau, lle nad yw trafnidiaeth yn cael ei ystyried gan ddarparwyr addysg neu iechyd tan yn rhy hwyr. Ac mae'n sôn yn benodol am—[Torri ar draws.] A gaf fi ateb y pwynt yn gyntaf? Mae'n gwneud pwynt penodol o ddweud nad oes gwasanaeth bws ar gael o Flaenau Gwent i ysbyty'r Faenor, ac mae hynny, unwaith eto, yn achosi llawer o rwystredigaeth. Rydym wedi trafod y peth nifer o weithiau, a'r gwir amdani yw ein bod wedi ceisio rhoi gwasanaeth ar waith i fynd o'i etholaeth i ysbyty'r Faenor, ond mae'r ffordd y mae'r farchnad yn gweithio wedi ein rhwystro. Os oes yna wasanaeth bws sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus yn cystadlu â gwasanaeth sy'n cael ei redeg yn fasnachol, mae'r gweithredwyr yn gallu ein herio'n gyfreithlon, a dyna sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Rydym wedi ceisio rhoi'r gwasanaeth yn ei le. Mae darparwr sy'n darparu rhan fach iawn o'r llwybr wedi ein herio ni ar hynny, ac o ganlyniad mae popeth wedi dod i stop ac etholwyr Alun Davies sy'n dioddef. Nid yw'n ddigon da, ac mae'n hynod rwystredig fod y fframwaith cyfreithiol yn ein hatal rhag darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig, fel y mae'n ei wneud i docyn sengl Natasha Asghar sydd wedi'i grybwyll droeon, fel y mae hi'n gwybod yn iawn, neu'n sicr fe ddylai wybod. Mae'r ffordd y mae'r system gyfreithiol bresennol wedi'i sefydlu yn ei gwneud yn amhosibl gwneud hynny, a dyna pam rydym yn awyddus i ddiwygio'r system drwy'r Bil bysiau, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth gyson y mae hi wedi'i ddangos i Fil bysiau, ac rwy'n edrych ymlaen at geisio llunio hwnnw ar sail drawsbleidiol i gyflawni ein huchelgais gyffredin. Felly, mae gennym gynlluniau ac rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â phroblemau sylfaenol mewn perthynas â'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y diwydiant bysiau.
Roeddwn yn credu bod y drafodaeth rhwng Jenny Rathbone ac Alun Davies yn un ddefnyddiol iawn, ac rwy'n credu bod y Siambr hon ar ei gorau pan fydd pobl yn rhoi eu hareithiau heibio ac yn ymateb i'r ddadl, sef yr hyn rwyf am geisio ei wneud y prynhawn yma, oherwydd roedd y pwyntiau a wnaeth y ddau ohonynt yn hollol gywir. Mae Jenny Rathbone yn iawn: mae angen i ni annog pobl i beidio â theithio i ganol dinasoedd pan fydd dewisiadau amgen ar gael, ac rydym eisiau creu dewisiadau amgen gwell. Ac rwy'n codi fy het i Gyngor Caerdydd am fod yn ddigon dewr i ddatblygu cynllun codi tâl am dagfeydd, a byddant yn neilltuo'r arian hwnnw ar gyfer prosiect traws-reilffordd fel y'i gelwir yng Nghaerdydd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus metro yng Nghaerdydd. Dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae'n heriol yn wleidyddol, ond dyna'r peth iawn i'w wneud ac rydym yn gweithio gyda hwy.
Mae Alun Davies hefyd yn iawn nad yw'r gwasanaethau ar gyfer ei etholwyr ar gael weithiau, ac yn sicr nid ydynt yn ddigon da i roi dewis amgen realistig i bobl. Rwyf newydd gael gwared ar fy ail gar, sy'n brofiad newydd i mi, ac rwy'n ceisio teithio o gwmpas ar y tren ac ar feic trydan. A gallaf ddweud wrthych ei fod yn anodd. Mae'n rhwystredig, mae'n aml yn anghyfleus, ac mae arnaf ofn mai dyna yw'r realiti—nid ar gyfer pob taith; mae'n wych ar gyfer rhai teithiau. Ond mae yna adegau, gyda thaith heb ei chynllunio, neu ar adegau pan nad yw trenau'n dod oherwydd prinder staff, oherwydd y tywydd, oherwydd pob math o resymau dilys, lle mae'n rhwystredig iawn i deithiwr. Ac oni bai ein bod yn newid y realiti hwnnw, ni fyddwn byth yn cyrraedd ein targed i newid dulliau teithio ac ni fyddwn byth yn cyrraedd ein targed newid hinsawdd. Rwy'n gweld bod Alun Davies eisiau ymyrryd, ac rwy'n hapus iddo wneud hynny.