6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:59, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Fe eisteddoch chi gyferbyn â mi ac fe wnaethoch chi gytuno â mi y dylid adeiladu morlyn bae Abertawe. Cytunodd eich AS Ceidwadol eich hun, a edrychodd ar yr adroddiad, y dylid ei adeiladu—Charles Hendry. A ydych yn cofio hynny? A beth wnaeth y Llywodraeth? Dywedodd 'na'. Dywedodd na fyddai'n cael ei adeiladu, er iddo gael ei alw'n 'ddewis cwbl amlwg'.