Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 18 Ionawr 2023.
Ni fyddech yn synnu fy nghlywed innau'n dweud fy mod yn cytuno â chi ar y sail honno, gan yr hoffwn weld porthladd rhydd Celtaidd, ac wrth gwrs, rwy'n cefnogi eich ymdrechion chi ac ymdrechion eich AS, Virginia Crosbie, i sicrhau bod porthladd rhydd yng Nghaergybi hefyd.
Un o'r ysgogiadau pwysig er mwyn dod â datblygiadau ynni gwynt arnofiol ar y môr i Gymru, wrth gwrs, yw porthladdoedd rhydd, fel rwyf newydd fod yn ei drafod. Yn ddiweddar, dywedodd Henrik Pedersen, prif swyddog gweithredol Associated British Ports, sy’n berchen ar nifer o borthladdoedd eraill yng Nghymru a ledled y DU, wrth y Pwyllgor Materion Cymreig naill ai ein bod yn dod â’r datblygiadau hyn i Gymru, neu byddant yn mynd i Sbaen, Ffrainc neu rywle arall, ac mae mor syml â hynny. Os na chymerwn y datblygiadau hyn, a'u meithrin, bydd gwledydd eraill yn gwneud hynny. Wrth gwrs, byddwn ar fai yn peidio â sôn unwaith eto am gais y porthladd rhydd Celtaidd, gan y byddai’r cais yn helpu i sicrhau buddion economaidd yn fy etholaeth i, ac ar hyd arfordir de Cymru. Rwy'n derbyn bod cynigion porthladdoedd rhydd eraill wedi’u cyflwyno hefyd, fel y nodwyd. Serch hynny, pe bai’n llwyddiannus, byddai’r porthladd rhydd Celtaidd yn naturiol yn cefnogi'r gwaith o adfywio cymunedau yng ngorllewin Cymru drwy ddenu busnesau, swyddi a buddsoddiad newydd, a fyddai yn ei dro yn rhoi hwb i economi Cymru. O ystyried yr effaith drawsnewidiol y byddai’n ei chael yn y de-orllewin, rwy’n mawr obeithio y cawn glywed newyddion cadarnhaol ynglŷn â hyn yn y dyfodol agos iawn.
Mae’r Aelodau yma’n ymwybodol o fanteision cadarnhaol technoleg ynni gwynt arnofiol ar y môr, ac wrth symud ymlaen, mae angen inni gynyddu capasiti’r grid a sicrhau bod cysylltiadau grid newydd ar gael hefyd. Gwyddom fod y prosesau cynllunio a chydsynio eisoes yn eithaf araf ac y gallant fod yn anodd, ac ni allwn ychwaith danamcangyfrif maint y dasg sy’n wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru a’r angen iddynt gael yr adnoddau priodol. Nododd tystiolaeth gan Copenhagen Infrastructure Partners i’r Pwyllgor Materion Cymreig y drafodaeth barhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys materion sy'n ymwneud ag adnoddau, yn enwedig ar gyfer eu rhaglen ynni adnewyddadwy ar y môr. Dywedasant ei bod yn hollbwysig i gyrff cydsynio gael yr adnoddau priodol i allu bodloni’r gofynion a fydd yn gysylltiedig â chyflymu prosiectau ynni gwynt arnofiol ar y môr, ac maent yn llygad eu lle. Yn wir, yn y trafodaethau a gefais gyda datblygwyr yr wythnos hon, y brif neges oedd bod y prosesau cydsynio yng Nghymru yn llawer rhy hir ac y gallai hynny fod yn wirioneddol niweidiol i ddatblygiad prosiectau. Ac felly, er bod hwn yn gyfnod cyffrous i’r sector ynni gwynt arnofiol ar y môr, mae yna heriau sylweddol o hyd hefyd. Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy ar y môr, ac er fy mod wedi canolbwyntio ar ynni gwynt arnofiol ar y môr heddiw, gwyddom fod cyfleoedd hefyd gydag ynni'r llanw a ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.