6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:03, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Fel roeddwn i'n dweud, mae Llywodraeth y DU yn dibynnu llawer gormod ar fecanwaith RAB ar gyfer ariannu'r pethau hyn, sy'n ychwanegu costau at filiau cwsmeriaid yn hytrach nag ar drethiant cyffredinol. Mae'n anflaengar ac mae'n gosod baich anghymesur ar y rhai lleiaf abl i'w ysgwyddo, sydd ynddo'i hun yn arafu cynnydd tuag at y system ynni sydd ei hangen arnom. Mae dirfawr angen model gwahanol o fuddsoddiad. Ond yn hytrach na diwygio'r meysydd pwysig hyn o fewn eu cyfrifoldeb, treuliodd Llywodraeth y DU y llynedd ar ei hyd yn ymladd fel cathod a chŵn wrth iddynt ddod ag economi'r DU i stop—nid oes dianc rhag hynny; dyna a wnaethant—gan oedi'n achlysurol i chwarae gêm y wasg asgell dde drwy fachu ar y cyfle i ymladd ag unrhyw un arall y gallent ddod o hyd iddynt—pobl mewn adfyd yn ffoi rhag rhyfel neu weithwyr hanfodol y mae ein dyled mor fawr iddynt ac yr oeddech chi'n hapus iawn i glapio iddynt, ond heb fod mor hapus i dalu amdanynt, sylwais. 

Felly, rwy'n croesawu'r modd y mae'r cynnig yn cydnabod pwysigrwydd y miloedd o swyddi sydd i'w hennill yn y sector morol a phwysigrwydd porthladdoedd rhydd, nawr ein bod wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod yr angen am degwch, fel y cydnabu Rhun yn ei gyfraniad. Ond tybed hefyd a wnaiff y Blaid Geidwadol, yn eich sylwadau i gloi, gydnabod ac ymddiheuro am y miloedd o swyddi a gollwyd yn ystod y misoedd diwethaf o ganlyniad i'ch anallu syfrdanol a'r obsesiwn ag ymladd yn erbyn eich gilydd yn lle cymryd cyfrifoldeb am y chwyldro gwyrdd yr honnwch eich bod yn dyheu amdano. 

Efallai y byddwch hefyd eisiau esbonio pam na chafwyd arian llawn yn lle'r cannoedd o filiynau o bunnoedd o gronfeydd yr UE a fuddsoddwyd gennym mewn ynni morol, neu hyd yn oed gydnabod na chafwyd yr arian hwnnw'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr, wrth gloi'r ddadl hon heddiw, yn manteisio ar y cyfle am unwaith i godi llais dros fuddiannau Cymru. Efallai y gallant roi gwybod i ni pa sylwadau a wnaethant ac y byddant yn eu gwneud i'w cymheiriaid yn y DU ar y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt i alluogi chwyldro ynni gwyrdd i ddigwydd. Ac i'ch helpu, hoffwn awgrymu eich bod yn ymuno â ni heddiw i alw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhob porthladd Cymreig, er mwyn eu galluogi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy ar y môr, i weithio gyda ni ar fynd i'r afael â bylchau yn y gadwyn gyflenwi ledled y DU, ac i drosglwyddo pwerau pellach yn ymwneud â thrwyddedu ynni ar y môr, storio ynni ac Ystad y Goron. Byddai'r tri cham gweithredu cymharol fach hynny a allai ddigwydd yn gyflym yn dangos o'r diwedd fod Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch y cyfleoedd yn y sector hwn, a byddai'n datblygu'r uchelgeisiau ar gyfer Cymru ymhellach, uchelgeisiau a rennir ar draws y Siambr hon.

Ac yn olaf, hoffwn ganmol dewrder y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno'r cynnig hwn wrth i'w cymheiriaid yn y DU lywyddu dros ddirywiad y system ynni a'r economi ehangach ac agor pyllau glo—mewn difrif, pyllau glo. Carwn eich annog i fod hyd yn oed yn ddewrach a gofyn i'ch cymheiriaid yn y DU alw etholiad cyffredinol yn y DU, fel y gallwn gael y Llywodraeth wyrddach, y Llywodraeth decach, ac a bod yn onest, y Llywodraeth weithredol sydd ei hangen arnom. Diolch.