7. Dadl Plaid Cymru: Rheoli'r pwysau ar y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 18 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:03, 18 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Fy ofn mwyaf y prynhawn yma fyddai y byddwn yn clywed y Gweinidog yn dweud, 'Rydym eisoes yn gwneud popeth sydd angen ei wneud i ddatrys yr argyfwng.' Yr hyn a glywsom oedd y Gweinidog yn dweud bod popeth eisoes ar y gweill, mae popeth eisoes yn cael ei wneud i ddatrys yr argyfwng. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd, ac mae'n groes i'r holl dystiolaeth sydd gennym o'n blaenau. Gwrthododd dderbyn y gair 'argyfwng'—