Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 18 Ionawr 2023.
Iawn. Wel, mae hynny'n iawn. Wel, os yw ar frig y rhestr, rwy'n chwilfrydig iawn, felly—. Rwy'n chwilfrydig iawn, mae gennym gytundeb cydweithio; prin fod sôn am iechyd yn eich cytundeb cydweithio. Mae iechyd meddwl yno; ond nid oes gair am iechyd. A chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig i bobl ddeall bod yn rhaid inni ryddhau arian o rywle, ac ni allaf eich gweld yn codi eich llaw i ddweud wrthym yn union ble rydych eisiau inni dorri.