Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 18 Ionawr 2023.
Felly, un bleidlais yn unig sydd y prynhawn yma, a'r bleidlais honno ar y ddadl sydd newydd ei chynnal, sef y ddadl ar eitem 7, dadl Plaid Cymru ar reoli'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.