Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 24 Ionawr 2023

Polisi'r Llywodraeth yw cael Ystad y Goron wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Rŷm ni wedi cael mwy nag un sgwrs gydag Ystad y Goron ac rŷm ni wedi rhoi yr un syniad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Fel dwi'n gwybod y bydd Llyr Gruffydd yn gwybod, gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, bydd dim cyfle, dwi ddim yn meddwl, i symud ymlaen gyda'r syniad yna. Ond ym marn y Llywodraeth, dyna yw'r ffordd orau i wneud pethau. Drwy ei gwneud hi fel yna, bydd yr arian o'r pethau naturiol yma yng Nghymru yn nwylo pobl yng Nghymru, a honno yw'r ffordd orau i symud ymlaen.