Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 24 Ionawr 2023.
Mi ddywedodd y Brenin Siarl wythnos diwethaf ei fod yn awyddus i weld cyfran o elw Ystad y Goron yn cael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Byddai nifer ohonom ni'n dadlau y dylai holl arian Ystad y Goron gael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Mae'n bolisi bellach gan nifer ohonom ni i ddatganoli Ystad y Goron. Byddwn i'n falch iawn i glywed pa waith mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd i symud yr agenda yna yn ei flaen. Ond hefyd, ydych chi'n cytuno â fi na ddylai incwm sy'n cael ei greu gan Ystad y Goron fod yn sail i'r grant sofran sydd yn cynnal y teulu brenhinol?