Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Ionawr 2023.
Wrth siarad am Ben-y-bont ar Ogwr, cyn cael fy ethol, roeddwn i'n ymddiriedolwr i ganolfan cyffuriau ac adsefydlu Brynawel, sydd yn etholaeth fy nghydweithiwr Huw Irranca-Davies yn Aberogwr. Maen nhw'n cynnig amrywiaeth eang o ddulliau cyfannol i gefnogi pobl gyda'u hadsefydlu o gaethiwed. Rwyf wedi gweld y gefnogaeth wych sydd ar gael, a'r rhwystrau y gall pobl eu goresgyn pan fydd ganddyn nhw gyfle i fanteisio ar y gefnogaeth gywir.
Mae ymchwil gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn dadlau bod mwy ohonom ni, a dweud y gwir, yn agored i gaethiwed nag erioed o'r blaen, gydag arferion gor-bresgripsiynu, diwylliant cyffuriau yn ymdreiddio i'r cyfryngau cymdeithasol, twf y we dywyll, marchnata gamblo ymosodol, a chyflyrau fel gorbryder yn cael eu hecsploetio gan werthwyr meddyginiaeth anghyfreithlon. Yn eu hadroddiad, 'Road to Recovery: addiction in our society – the case for reform', maen nhw'n galw am ddull person cyfan o helpu unigolion gydag adferiad. Fel mae nhw'n ei ddweud, mae adferiad yn dechrau gyda'r unigolyn, ond mae'n cymryd cymuned dosturiol a phenderfynol i wireddu hynny.
Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi, er gwaethaf yr her barhaus i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau, mae'r gwaith partneriaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru drwy strwythur y byrddau cynllunio'r ardal a'r £67 miliwn o gyllid sy'n cael ei warchod a'i gynyddu o fewn ein cyllideb, ynghyd â'n hymrwymiad hirsefydlog i ddull o leihau niwed, wedi bod yn sail i ymateb cryf Cymru i fynd i ymdrin â mater cymhleth ac amlochrog iawn? Diolch.