Gwasanaethau Fasgiwlar

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:19, 24 Ionawr 2023

Unwaith eto, dwi'n cefnogi etholwr o Arfon sydd wedi dioddef yn enbyd yn sgil camgymeriadau sylfaenol a difrifol iawn gan yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Dwi wedi dadlau'n gyson fod y bwrdd iechyd wedi datgymalu uned o safon uchel ym Mangor am y rhesymau anghywir. Dyma ond un o benderfyniadau gwael a wnaed efo sêl bendith eich Gweinidogion chi dros y blynyddoedd, diwethaf sydd wedi golygu dirywiad mewn gwasanaethau i bobl yn y gogledd orllewin.

Tanfuddsoddi arian cyfalaf yn Ysbyty Gwynedd ydy un arall o'r penderfyniadau gwael hynny sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Mae cyfres o benderfyniadau disynnwyr ac o gamreoli wedi cyfrannu yn fawr at yr argyfwng iechyd yn y rhan yma o Gymru. Dydy'r trefniadau fasgiwlar presennol ddim yn gweithio ar gyfer fy etholwyr i. Rydych chi wedi rhestru nifer o adroddiadau—mwy o adroddiadau—ond beth ydych chi’n mynd i'w wneud i stopio’r sefyllfaoedd torcalonnus sydd yn parhau i ddigwydd yng Nglan Clwyd?