Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 24 Ionawr 2023.
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio ei rhaglen ddeddfwriaethol mewn ffyrdd sy'n diystyru confensiwn Sewel ac yn tanseilio'r setliad datganoli yn llechwraidd. O'r Biliau presennol, mae'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) mympwyol ac sydd wedi'i lywio gan ideoleg yn peri risgiau sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon.