1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2023.
6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59005
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddefnyddio ei rhaglen ddeddfwriaethol mewn ffyrdd sy'n diystyru confensiwn Sewel ac yn tanseilio'r setliad datganoli yn llechwraidd. O'r Biliau presennol, mae'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) mympwyol ac sydd wedi'i lywio gan ideoleg yn peri risgiau sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon.
Prif Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw. Os bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn mynd yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd, ac yn ôl yr amserlen fympwyol sydd wedi'i gosod gan Lywodraeth y DU, yna erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n gweld miloedd ar filoedd o reoliadau sy'n cynnwys diogeliadau amgylcheddol a chyflogaeth hanfodol a llawer mwy, y mae llawer ohonyn nhw'n disgyn yn uniongyrchol o fewn cymhwysedd datganoledig, yn cael eu dileu yn unochrog a heb unrhyw ymgysylltu ystyrlon â Llywodraeth Cymru, ac a allai, o'r haf ymlaen, beri risg o lethu'n ddifrifol capasiti Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Ac, yn wir, oherwydd y brys amhriodol a'r diffyg dadansoddi manwl gan y DU, gallai osgoi craffu i bob pwrpas ac arwain at dagfa ddeddfwriaethol yma yng Nghymru.
Felly, pa mor obeithiol ydy'r Prif Weinidog y gallai Llywodraeth y DU ddod at eu coed yn wyneb gwrthwynebiad yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan nifer cynyddol o aelodau'r meinciau cefn Ceidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin, yn ogystal ag ar draws meinciau'r gwrthbleidiau, a gan y cyhoedd a sefydliadau sy'n bryderus ledled y DU? Ac os nad yw'r Llywodraeth yn dod at eu coed, a fyddai ef yn gweithio gyda'r Senedd hon i ddod o hyd i ffyrdd deddfwriaethol o fewn ein cymhwysedd i roi amser i'n Llywodraeth a'n pwyllgorau wneud y gwaith yn gywir i bobl Cymru, hyd yn oed os yw Llywodraeth y DU am gymryd Lloegr yn bendramwnwgl dros ddibyn y maen nhw eu hunain wedi'i greu?
Wel, Llywydd, mae'r rheiny wir yn bwyntiau pwysig iawn y gwnaeth Huw Irranca-Davies y prynhawn yma. Y gobaith gorau sydd gennym ni o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn camu'n ôl o'r dibyn y mae wedi'i greu ei hun yw y bydd yn gwrando, nid yn unig ar leisiau yma yng Nghymru neu yn yr Alban, ond ar y llu o leisiau hynny mewn bywyd academaidd, grwpiau amgylcheddol, ac yn arbennig ym maes busnes. Ac mae Huw Irranca-Davies yn iawn i ddweud ei bod hi'n amlwg bod pryderon cynyddol ar feinciau cefn y Blaid Geidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin. Rydw i'n gweld bod cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland, yn arwain ymdrechion gan Aelodau Ceidwadol i roi'r holl fusnes hwn mewn sefyllfa well nag y mae ar hyn o bryd. A allwn ni fod yn obeithiol am hynny? Rwy'n credu ei bod hi'n anodd bod yn obeithiol pan fo gennym ni Brif Weinidog sydd wedi'i ei ddal gan nifer fach o eithafwyr Brexit yn ei rengoedd ei hun. Er hynny, roedd cyfarfod yn gynharach heddiw rhwng y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Felicity Buchan, o'r adran ffyniant bro, a gwnaeth hi gynnig cyfleu ein pryderon mewn ffordd adeiladol i Lywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i ddilyn y dadleuon hynny gyda nhw.
Un o'r gwahaniaethau mawr iawn rhwng y pwerau sy'n cael eu cynnig i Gymru yn y Bil hwn a'r pwerau y mae Gweinidogion y DU yn eu cadw drostyn nhw eu hunain yw'r pŵer i ymestyn y dyddiad machlud. Felly, ar hyn o bryd, mae Gweinidogion y DU, wrth weld ymyl y dibyn yn dod, yn gallu ymestyn y dyddiad cau eu hunain. Nid yw'r pwerau hynny ar gael i'r Senedd hon nac i Weinidogion Cymru. Dylen nhw fod, oherwydd bydd yr un anawsterau yn ein hwynebu ni hefyd. A phan ddywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, fod risgiau sylweddol nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond hefyd i'r Senedd, o ran y gallai'r amser sydd gennym ni ar gael i basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol, yn syml, gael ei oddiweddyd gan swmp y gwelliannau y bydd eu hangen os bydd gennym ni lyfr statud na fydd, yn syml, yn weithredadwy ar ôl diwedd y flwyddyn galendr hon. Ac, wrth gwrs, rwy'n gwbl hapus i roi sicrwydd i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaethol y byddwn ni'n gweithio gyda'r Senedd i liniaru'r peryglon hynny y gorau oll y gallwn ni.