Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener yr wythnos hon, fe fyddwn ni'n cofio'r miliynau o bobl a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill wedi hynny. Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yw 'Pobl Gyffredin'. Yn ystod yr Holocost a'r hil-laddiadau sydd wedi dilyn, pobl gyffredin a brofodd erledigaeth ac a lofruddiwyd am eu bod nhw'n aelodau o gymuned o bobl. Pobl gyffredin a oedd yn gweithredu ac yn helpu'r rhai a oedd yn cael eu herlid. Pobl gyffredin hefyd oedd y rhai na wnaeth unrhyw beth ac a lyncodd y propaganda atgas. Mae'r thema yn tynnu sylw at wirionedd cignoeth hil-laddiad: mewn llawer o achosion, fe hwyluswyd yr erchyllterau hyn gan bobl gyffredin.
Yn eu cyflwyniad i thema eleni, mae'r ymddiriedolaeth yn tanlinellu sut mae pobl gyffredin wedi gwneud gweithredoedd erchyll yn bosibl:
'Pobl gyffredin oedd y plismyn a oedd â rhan wrth gasglu'r dioddefwyr at ei gilydd, a'r ysgrifenyddion a oedd yn teipio cofnodion yr hil-laddiad, a'r deintyddion a'r meddygon a oedd yn dewis a dethol, pobl gyffredin oedd y cymdogion a arfogwyd â machetes yn Rwanda, athrawon ysgol a aeth yn warchodwyr y gwersylloedd crynhoi yn Bosnia.'
Mae i'r thema hon neges rymus sy'n berthnasol i bawb ohonom ni. Rydym ni i gyd yn 'bobl gyffredin' sydd â'r gallu i wneud gwahaniaeth â'n gweithredoedd ni, er gwell neu er gwaeth. Mae gennym ni, fel unigolion, ddewis i wrthsefyll casineb a rhagfarn. Fe allwn ni i gyd herio naratifau rhwygol a fwriadwyd i ddarnio ein cymunedau a difenwi grwpiau o bobl.
Ar gyfer 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru i ysgogi cyfranogiad ledled y genedl. Mae'r gweithiwr cymorth wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau, gan eu hannog i gyfranogi, a helpu i gefnogi digwyddiadau coffáu lleol drwy ganllawiau a darparu adnoddau.
Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaeth coffa yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ar 27 Ionawr, ac fe fyddaf i'n mynd i hwnnw. Y prif siaradwr yw'r bardd Adam Kammerling, sydd wedi ysgrifennu barddoniaeth yn seiliedig ar ei dreftadaeth Iddewig ef ac am ei daid a oroesodd yr Holocost. Bydd yr arddangosfa, 'Sophie Scholl and the White Rose', i'w gweld yn oriel Art Central, Y Barri, ac ym mhafiliwn pier Penarth. Mae'r arddangosfa yn adrodd hanes Sophie Scholl a'i brawd Hans, a ddaeth yn ymgyrchwyr, gan beryglu eu bywydau trwy ddosbarthu taflenni gwrth-Natsïaidd ledled yr Almaen. Yr wythnos hon, mae Canolfan Gelfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd a Sefydliad Celf Josef Herman yn Abertawe yn cynnal dangosiadau cyhoeddus o ffilmiau am yr Holocost. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cynnal gweminar ar-lein am yr Holocost ar 26 Ionawr.