Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 24 Ionawr 2023.
Rwy'n sicr yn adleisio'r alwad honno, Gweinidog. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost wedi ei neilltuo i gofio'r rhai a gafodd eu herlid a'u lladd am eu bod nhw ar y cyrion a'u gwneud yn wrthun gan rai a oedd mewn awdurdod. Mae thema Diwrnod Cofio'r Holocost, sef pobl gyffredin, yn un sydd â llawer i'n haddysgu ni heddiw, fel rydych chi wedi sôn, yn fyd-eang, ac yma yng Nghymru. Oherwydd er bod Diwrnod Cofio'r Holocost yn sicrhau ein bod ni'n cofio pobl, pobl gyffredin, sydd wedi dioddef erchyllterau, a thystio i'r fath annynoldeb, mae hynny hefyd yn mynnu, wrth wneud hynny, ein bod ni'n dwyn y ffaith i gof mai pobl gyffredin a achosodd yr erchyllterau hynny hefyd, gan fynd gyda llif rhagfarn, celwyddau, casineb a gweithredoedd ffiaidd o drais. Mae'n ein gorfodi ni i wynebu'r hyn sy'n arwain at gasineb o'r fath, yr hyn sydd wedi hwyluso'r fath erchyllterau bryd hynny ac yn yr oes bresennol. Dywedodd yr awdur a'r goroeswr i'r Holocost, Primo Levy, yn ei lyfr The Reawakening:
'Mae angenfilod yn bodoli, ond maen nhw'n rhy ychydig mewn nifer i fod yn wirioneddol beryglus. Yn fwy peryglus yw'r bobl gyffredin, y swyddogion sy'n barod i gredu a gweithredu heb holi cwestiynau.'
Sut ydym ni am sicrhau bod y cwestiynau hynny'n cael eu holi bob amser yng Nghymru? Yn ei hadroddiad ar achos llys troseddau rhyfel Adolf Eichmann, yn enwog iawn, fe alwodd yr athronydd Hannah Arendt Eichmann, sef un o swyddogaethau'r peirianwaith Natsïaidd, yn 'frawychus o normal'. Fe ddaeth hi i'r casgliad yn ei hastudiaeth enwog a ddilynodd, 'Eichmann yn Jerwsalem: A Report on the Banality of Evil', bod ei gamwedd ef yn deillio o'i
'anallu i feddwl o safbwynt rhywun arall'.
Felly, roedd hi'n awgrymu, fe all unigolyn, ac felly rai sy'n gweinyddu Llywodraeth neu sy'n gweithredu ar ran gwladwriaeth, wneud drwg heb fod yn gynhenid ddrygionus yn ei hanfod. Y diffyg hwnnw o gydymdeimlad, sef y gallu i weld pobl eraill yn llai gwerthfawr, i ymwrthod â dynoliaeth gyffredin pobl, yw'r hyn y mae'n rhaid i ni ei ochel yn ei erbyn drwy'r amser yn y gymdeithas, yn y Llywodraeth ac yn y cyfryngau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi felly fod tosturi a chydymdeimlad gyda rhai sy'n frodyr a chwiorydd i ni'n hollbwysig a'i bod hi'n rhaid mynegi tosturi a chydymdeimlad y Llywodraeth drwy'r iaith y mae hi'n ei defnyddio a'i gweithgarwch? O ystyried eich sylwadau chi ynglŷn â rhethreg yn erbyn hawliau dynol, Gweinidog, a ydych chi felly hefyd yn cytuno bod angen i ni ddatganoli rhagor o bwerau oddi wrth San Steffan i sicrhau bod ein nod ni o fod yn genedl noddfa yn cael ei wireddu?
Yn ddiweddar, rhododd Freedom from Torture, elusen eiriolaeth ar gyfer goroeswyr artaith, fideo ar-lein yn dangos goroeswraig i'r Holocost, Joan Salter, yn wynebu rhethreg annynol Ysgrifennydd Cartref y DU, Suella Braverman, ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Gan ddyfynnu geiriau fel 'heidiau' ac 'ymosodiadau', fe ofynnodd Ms Salter gwestiwn pwysig iawn i'r Ysgrifennydd Cartref:
'Rwy'n cael fy atgoffa o'r iaith a ddefnyddir i annynoli a chyfiawnhau llofruddiaeth aelodau o fy nheulu i a miliynau o bobl eraill. Pam ydych chi o'r farn fod angen defnyddio iaith o'r fath?'
Eto i gyd, fe wrthododd yr Ysgrifennydd Cartref ymddiheuro am yr iaith a ddefnyddiwyd ganddi. Wrth i ni nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yr wythnos hon, a wnewch chi, Gweinidog, achub ar y cyfle hwn i ymuno â mi a fy mhlaid i gondemnio ar goedd y rhethreg a ddefnyddiodd yr Ysgrifennydd Cartref i ddisgrifio pobl, pobl gyffredin, sy'n ffoi rhag amgylchiadau anghyffredin ac yn chwilio am noddfa, a'r geiriau awgrymog megis y sylwadau ynghylch cychod bach a wnaeth rhai yn y blaid Dorïaidd yn San Steffan ac, ysywaeth, rai sy'n eistedd yn y Siambr hon?