Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rydw i'n cyhoeddi ein hymgynghoriad ar ddiwygio targedau ynni Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad pwysig yr ydym ni'n ei wneud i ysgogi'r gadwyn gyflenwi adnewyddadwy, gan ysgogi twf economaidd ochr yn ochr â lleihau allyriadau a diogelwch ynni.
Roedd ein targedau presennol yn arwydd o uchelgeisiau uchel Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a blaenoriaeth y Llywodraeth hon i gefnu ar danwydd ffosil. Rydym yn gwneud cynnydd tuag at y targedau hynny, ac mae angen gwth terfynol cryf ar y prosiectau sy'n cael eu datblygu os ydym ni'n mynd i gyrraedd ein targed yn 2030 i ynni adnewyddadwy gyflenwi 70 y cant o'n defnydd blynyddol.
Ond mae'r argyfwng hinsawdd ac ymchwydd diweddar prisiau ynni wedi rhoi pwyslais amlwg ar yr angen am newid sylweddol pellach yn ein huchelgeisiau. Cyflenwad lleol o ynni adnewyddadwy diogel, fforddiadwy, yng nghyd-destun rhwydwaith Prydain Fawr gref, yw'r sylfaen i gymdeithas ffyniannus, ddi-garbon.
Gallaf, felly, gyhoeddi ein bod yn cynnig targed penodol i Gymru gynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 100 y cant o'n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035. Ar ben hynny, cynigiwn ein bod yn parhau i gadw i fyny gyda'r defnydd, sy'n debygol o ddyblu o leiaf erbyn 2050.
Mae'r dystiolaeth a gyhoeddir ochr yn ochr â'n cynigion yn dangos y gyfres o brosiectau mewn datblygiad a llwybr darluniadol at gyrraedd y targed hwn. Mae'n amlwg y bydd angen amrywiaeth o dechnolegau a graddfeydd datblygu arnom i gyflawni ein huchelgeisiau. A bydd angen i ni fod yn hyblyg o ran yr atebion cywir i'n cymunedau, a sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn gydnaws ag asedau amgylcheddol eithriadol Cymru.
Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw'r swyddogaeth y mae disgwyl i wynt ar y môr ei chwarae i gyrraedd ein nod. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ystad y Goron eu bod wedi cyhoeddi prydlesi gwely'r môr i 8 GW o brosiectau gwynt ar y môr. Mae hyn yn cynnwys prosiect 1.5 GW Mona oddi ar arfordir y gogledd. Dyma garreg filltir bwysig tuag at y nod o gyflawni'r prosiectau hyn erbyn diwedd y degawd hwn.
Mae cynlluniau sefydlog gwynt ar y môr eisoes yn cefnogi'r economi leol yn y gogledd, gan gynnal 240 o swyddi o ansawdd da ym mhorthladd Mostyn. Rydym yn benderfynol o adeiladu ar hyn gyda'r prosiectau sydd i ddod, gan weithio gyda'r datblygwyr i nodi cyflenwyr lleol ac adeiladu gweithlu medrus. Rhaid i ni hefyd ddysgu gwersi o'r rhai cyfleoedd a fethwyd i ddal cyfran fwy o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynlluniau ynni gwynt sefydlog ar y môr, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu, integreiddio a defnyddio gwerth uchel. Rydw i'n falch iawn felly o gyhoeddi ein bod yn rhoi hyd at £1 miliwn o gefnogaeth i Bort Talbot. Bydd y grant hwn yn cyfateb i ariannu'r gwaith paratoi y mae Associated British Ports yn ei wneud er mwyn galluogi prosiectau gwynt ar y môr arnofiol yn y dyfodol i gychwyn eu taith yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad hwn yn arwydd o'r diwydiant ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r sector cynlluniau ynni gwynt arnofiol. Mae hefyd yn darparu cyllid pwysig i'r seilwaith y bydd ei angen arnom i gyflawni cynlluniau ynni gwynt arnofiol i gyflawni ein huchelgeisiau. Wrth gwrs, nid dyma ddiwedd ein cefnogaeth, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Phort Talbot, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a chydweithwyr yn y gynghrair môr Celtaidd i sicrhau'r buddion mwyaf posibl o gynlluniau ynni gwynt arnofiol i Gymru.
Ochr yn ochr â chynhyrchu trydan glân, a'r gadwyn gyflenwi a'r cyfleoedd gwaith y gall ei greu, mae hefyd yn bwysig bod cymunedau'n elwa'n uniongyrchol ac yn teimlo cysylltiad â'r ynni maen nhw'n ei ddefnyddio yn y dyfodol o ran ynni adnewyddadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi eiriol ers amser maith dros berchnogaeth leol a chymunedol ar draws ystod eang o dechnolegau adnewyddadwy a graddfeydd datblygu. I gyflawni hyn, rydyn ni wedi cynyddu'r gefnogaeth rydyn ni'n ei gynnig i gymunedau yn sylweddol. Rydyn ni wedi rhoi hwb i'r cynnig gwasanaeth ynni yr ydyn ni, Llywodraeth Cymru, yn ei gynnig, a rhoi mwy o gefnogaeth sylweddol i Ynni Cymunedol Cymru i'w galluogi i gynyddu eu gweithgareddau. Mae cynllun grant ynni lleol ar gyfer prosiectau cymunedol yn helpu i lenwi'r bwlch a adawyd gan benderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r cynllun tariff cyflenwi trydan i ben. Ac mae ein canllawiau ar gydberchnogaeth leol yn helpu cymunedau i drafod cydberchnogaeth o brosiectau ar raddfa fwy. Ac wrth gwrs, mae sefydlu ein datblygwr ynni adnewyddadwy newydd yn y sector cyhoeddus yn agwedd bwysig, a fydd yn cadw mwy o werth yn uniongyrchol yn lleol.
Mae adnewyddu ein targed yn dangos ein huchelgais parhaus ar gyfer y berchnogaeth leol honno. Rydym yn cynnig targed ar gyfer o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod dan berchnogaeth leol erbyn 2035, gan wella ein targed presennol o 1 GW erbyn 2030. Yn ogystal, gan gydnabod pwysigrwydd datgarboneiddio gwres, rydym yn cynnig 5.5 GW ychwanegol o gapasiti ynni adnewyddadwy i'w gynhyrchu gan bympiau gwres erbyn 2035, yn ddibynnol ar ragor o gymorth gan Lywodraeth y DU a gostyngiadau yn y gost o ddefnyddio'r dechnoleg hon. Wrth gynnig y targed hwn, rydym yn croesawu unrhyw dystiolaeth ategol a all fod yn sail i hynny drwy ymgynghori. Yn sail i'n holl gynigion a'n targedau mae'r seilwaith, y gadwyn gyflenwi a'r hyblygrwydd a fydd yn sicrhau bod ein cyfres o brosiectau datblygu adnewyddadwy a'n diogelwch ynni yn llwyddiannus.
Rwyf eisoes wedi siarad am ein cefnogaeth i ddatblygu seilwaith porthladdoedd. Drwy ein cynllun gweithgynhyrchu, rydym yn cynnal ymarfer i fapio cadwyn gyflenwi'r sector ynni morol. Rydym yn edrych yn benodol ar gapasiti, gallu a chydnerthedd y cadwyni cyflenwi presennol a nodi lle gallwn fanteisio ar gyfleoedd fel cynlluniau ynni gwynt sefydlog ac arnofiol ar y môr. Rydym yn gweithio gyda gweithredwyr rhwydwaith ac Ofgem i ddeall a hyrwyddo anghenion Cymru ar gyfer rhwydweithiau ynni sy'n gallu cefnogi cymdeithas sero net. Ac rydym yn annog defnyddio datrysiadau storio i gefnogi system ynni mwy cydnerth. Mae gennym ni eisoes bartneriaethau sgiliau rhagorol, yn enwedig yr hyfforddiant a ddarperir yng Ngholeg Llandrillo Menai i ddatblygu arbenigwyr ym maes gwynt ar y môr. Ond hoffem adeiladu ar hynny, a bydd ein cynllun gweithredu sero net yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu gweithlu o'r radd flaenaf ar gyfer ein prosiectau lleol a chyfleoedd gwych i bobl sy'n gadael yr ysgol, graddedigion a'r rhai sy'n chwilio am lwybr gyrfa newydd.
Rwyf wedi dweud yn aml fod yn rhaid i Gymru deimlo budd ein chwyldro adnewyddadwy ac na allwn wneud yr un camgymeriadau o'r gorffennol a chaniatáu i'r budd a'r elw o'n hadnoddau lifo allan o'r wlad. Gwnaed y datganiad hwn o fwriad yn glir yn ein harchwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, a oedd yn darparu gweledigaeth i Gymru cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf ac i sicrhau bod cymaint o berchnogaeth leol â phosibl, gan gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Bydd ein huchelgeisiau sero net yn cael effaith fawr ar economi Cymru a'n cymunedau wrth i'r newid yn y galw am nwyddau, gwasanaethau a sgiliau esblygu. Hoffem sicrhau pontio teg sy'n darparu cyfleoedd economaidd ledled Cymru, gan sicrhau budd i fusnesau, cymunedau a dinasyddion.
Mae'r cyfleoedd o ran cynlluniau ynni gwynt arnofiol ar y môr yn y môr Celtaidd yn unig yn cynnig cyfleoedd i filoedd lawer o swyddi o ansawdd da a degau o filiynau o bunnau o fudd economaidd lleol. Gan weithio mewn partneriaeth â datblygwyr yn y sector preifat, cyhoeddus a chymunedol, gweithredwyr seilwaith, darparwyr sgiliau a busnesau, gallwn adeiladu diwydiant ynni adnewyddadwy o'r radd flaenaf yma yng Nghymru. Mae gosod y targedau hyn yn arwydd o'n huchelgais, ac rwy'n eich gwahodd chi i gyd i weithio gyda ni i wireddu'r weledigaeth hon. Diolch.