Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 24 Ionawr 2023.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rydym i gyd yn cytuno mai cyflenwad lleol o ynni adnewyddadwy diogel, fforddiadwy o fewn cyd-destun rhwydwaith Brydeinig gref yw'r sylfaen i gymdeithas ddi-garbon ffyniannus. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol i gyflawni'r gymuned honno yr ydym eisiau i Gymru fod, felly rwy'n croesawu eich penderfyniad, Gweinidog, i osod targed i Gymru gynhyrchu cyfwerth â 100 y cant o'n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035. Erbyn 2050, rhagwelir y bydd y defnydd o drydan yn cynyddu rhwng 200 y cant a 300 y cant. Mae hyn yn debygol o fod yn bennaf oherwydd bod mwy o ddefnydd yn y sectorau gwres a thrafnidiaeth. Felly, cwestiwn, Gweinidog: ochr yn ochr â dilyn cyflwyno technolegau adnewyddadwy newydd, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i geisio annog ein cymuned, lle gallant, i ddefnyddio llai o drydan?
Nawr, rydych chi wedi cynnig targed ar gyfer o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy i fod yn eiddo lleol erbyn 2035—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf am fy llais. O'r bron i 73,000 o brosiectau trydan adnewyddadwy a gwres sydd dan berchnogaeth leol yng Nghymru, mae bron i 90 y cant yn ddomestig. Mae'r mwyafrif o'r prosiectau domestig hyn yn bympiau solar PV a gwres, a all fod yn gost ddrud ymlaen llaw i berchnogion cartrefi, ac, yn ein hymchwiliad am ôl-osod cartrefi, trodd hyn yn dipyn o rwystr. Nawr er bod 2020 wedi gweld 20 allan o 22 awdurdod lleol yn cynyddu faint o drydan adnewyddadwy maen nhw'n ei gynhyrchu, dim ond pump welodd gynnydd o fwy na 5 y cant. Felly, er, yn amlwg, bod rhywfaint o gynnydd, yn syml, nid yw'n ddigon cyflym i gyrraedd targedau tymor byr eich Llywodraeth. Felly, pa gymhellion, Gweinidog, mae eich Llywodraeth yn darparu i rymuso perchnogion cartrefi domestig ac awdurdodau lleol i gyflymu cyfradd cynhyrchu ynni adnewyddadwy?
Er enghraifft, rydyn ni'n gwybod bod trethi busnes yn rhwystr i gynlluniau ynni dŵr preifat. Cost darparu rhyddhad ardrethi busnes i brosiectau ynni dŵr dan berchnogaeth breifat yn ystod blwyddyn ariannol 2021, pan welsom ni gynifer yn cofrestru ar y cynllun yma, y flwyddyn ddiwethaf roedden nhw'n gymwys ar gyfer y cynllun, oedd £380,000. Felly, er mwyn helpu'r ymgyrch tuag at gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a sicrhau bod cynlluniau ynni dŵr ar gael ar ffermydd, a fyddwch chi'n ystyried ailgyflwyno'r cymorth trethi busnes i dirfeddianwyr wrth symud ymlaen at 2023-24?
Er mwyn i'r uchelgeisiau hyn fod yn werth rhywbeth, mae'n rhaid cael fframwaith diriaethol ar gyfer cyflawni. Mae hyn yn cynnwys datblygu swyddi gwyrdd, buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i ddarparu cyfleoedd sy'n talu'n dda i'r gweithlu y bydd eu hangen i wneud y prosiectau adnewyddadwy hyn yn llwyddiant. Felly, roedd hi'n siomedig bod oedi cyn cyhoeddi cynllun sgiliau sero net Cymru yn hydref 2022. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw'r unig Lywodraeth ar draws y DU gyfan i beidio â chyhoeddi unrhyw beth ar sgiliau sero net. Felly, a fyddwch yn ymrwymo, Gweinidog, i gyhoeddi cynllun cydlynol ar gyfer hyfforddiant addysg a sgiliau fel y gall y swyddi gwyrdd â chyflogau da hyn ddod yn realiti mewn gwirionedd?
Yn olaf, cynhaliais gyfarfod ag Ystad y Goron yn ddiweddar. Maen nhw'n canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni. Mae ganddyn nhw hanes gwych o brydlesu gwely'r môr yn llwyddiannus, i'r graddau mai'r DU yw'r ail farchnad fwyaf llwyddiannus yn y byd. Fel y maen nhw wedi egluro i mi, mae cyfle i Gymru ei hun fod yn arweinydd byd-eang os ydyn ni'n symud yn gyflym ac yn annog busnesau i fuddsoddi. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau eich bod yn canolbwyntio'n llwyr ar gyflawni a gweithredu'n gyflym, ac, o'r herwydd, a wnewch chi ddiystyru dilyn yr hyn na ellir ond ei alw'n obsesiwn Plaid Cymru gyda datganoli Ystad y Goron? Os nad ydych chi'n cytuno â mi, a allech chi ddweud wrthyf beth rydych chi'n credu byddai buddion datganoli Ystad y Goron? Ond rydyn ni fel grŵp yn parhau i wrthwynebu hynny'n gadarn. Diolch, Dirprwy Lywydd.