Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch, Alun. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf. Y broblem fawr yn y fan yna yw sicrhau bod gan y gymuned yr ynni adnewyddadwy y mae hi ei heisiau a'i hangen, ond hefyd mae elfen enfawr yn y fan yna am nid dim ond buddion cymunedol, ond perchnogaeth gymunedol briodol. Felly, rydym ni'n awyddus iawn yn wir i hwyluso unrhyw gwmni sy'n adeiladu fferm wynt ar y tir—rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud hyn gyda chynlluniau ynni gwynt arnofiol hefyd, ond yn sicr ar y tir—i adeiladu tyrbinau yn uniongyrchol ar gyfer perchnogaeth gymunedol mewn gwirionedd. Felly, gallwn hwyluso, trwy Fanc Datblygu Cymru, bod gan bobl leol gyfran go iawn yn hynny. Bydd hynny'n golygu eu bod yn cael budd uniongyrchol yn eu biliau ynni, nad yw'n cael ei ganiatáu o dan y cynllun buddiannau cymunedol, ac mae hefyd yn golygu y gallwn hyrwyddo agenda datgarboneiddio, fel y gallwn ni gael biliau pobl yn iawn mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod hynny'n cael effaith sylfaenol ar faint o ynni adnewyddadwy y mae pobl eisiau ei weld o'u cwmpas, os ydw i'n onest.
Y darn mawr arall i mi yw ein bod ni'n aml wedi—dydw i ddim yn gwybod a yw eich cymuned yn y sefyllfa benodol hon—cymunedau sy'n gallu gweld un neu ddau neu fwy o ffermydd gwynt o'u ffenestri sydd ar olew oddi ar y grid. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o gael y cymunedau hynny i allu cysylltu'n uniongyrchol â'r trydan adnewyddadwy: (a) i ddatgarboneiddio, (b) i gael y gefnogaeth gymunedol honno roeddech chi'n sôn amdani, ac (c) pa mor rhwystredig yw hynny? Bod gennych chi'r cyfoeth yna o gyfle ar garreg eich drws a fedrwch chi ddim cyrraedd y peth. Mae llawer o'r cymunedau yr ydw i'n eu gwasanaethu ac y mae Rebecca Evans yn gwasanaethu yn yr union sefyllfa honno, a byddwn i'n dychmygu bod nifer o gyd-Aelodau o gwmpas y Siambr yn y sefyllfa honno, felly rydyn ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n lledaenu'r buddion, os mynnwch chi, ac mae'r agwedd perchnogaeth gymunedol yma'n rhan fawr iawn o hynny. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn yn wir i wneud yn siŵr, wrth i'r datblygwr sy'n eiddo i'r wladwriaeth gyflwyno'r safleoedd enghreifftiol hyn—lle rydym ni'n adeiladu tyrbinau yn benodol i'r gymuned fod yn berchen arnyn nhw ac rydyn ni'n rhoi'r pris yn gyntaf, a'n bod ni'n caniatáu i'r gymuned brynu cyfranddaliadau yn y cynllun dros gyfnod hir iawn, iawn fel ei fod yn hygyrch i bob lefel incwm—wir yn gwneud gwahaniaeth wrth i'r elw hynny ddechrau dod i gymunedau.
Ac yna ar y ddau beth arall, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch mynediad at gyllid, mynediad at gyngor technoleg a mynediad at gyngor corfforaethol. Does arnaf i ddim eisiau cyhoeddi rhag blaen y trafodaethau cydweithredu yr ydym ni'n eu cael gydag Ynni Cymru, ond maen nhw'n symud ymlaen yn dda iawn a gobeithiaf allu gwneud cyhoeddiad cyn bo hir fydd yn cwmpasu nifer o'r agweddau hynny.