Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 24 Ionawr 2023.
Hoffwn godi dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os caf. Er mwyn cyflawni ein nodau a chyrraedd ein targedau, yn amlwg mae angen prosiectau ar raddfa fawr, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan hefyd, a bydd prosiectau ar raddfa lai gyda'i gilydd yn chwarae rhan sylweddol. Yn Lloegr, caniateir tyrbinau gwynt bach wedi'u gosod ar do o dan ddatblygiad a ganiateir. Ond nid yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i dyrbinau gwynt yma yng Nghymru. A fyddwch yn edrych ar hyn ac yn ystyried cymhwyso hawliau datblygu a ganiateir i dyrbinau gwynt bach yma yng Nghymru os gwelwch yn dda, Gweinidog?
Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn nad oeddech chi am ailadrodd eich hun, ond fe wnaf i, ac mae'n bwysig ar gyfer y cofnod. Cefais fy siomi'r wythnos diwethaf i dderbyn e-bost gan Nova Innovation, a roddodd wybod i mi fod eu cynlluniau ar gyfer prosiect llanw Enlli yn cael eu rhoi o'r neilltu. Fe gyfeirion nhw at dri phrif reswm am hyn, ond yn bwysicaf oll, fel y clywsom yn gynharach, y diffyg cysylltiad grid. Mae'r mater hwn yn wynebu eraill, gyda ffermwyr, er enghraifft, ym Mhen Llŷn yn methu datblygu prosiectau gwynt neu solar oherwydd y diffyg capasiti grid yma. Yn ôl adroddiad diweddar Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ar gapasiti'r grid yng Nghymru, gall sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer atgyfnerthu'r grid gymryd mwy o amser na llunio'r prosiect ynni ei hun. Felly, heb gynyddu'r capasiti hwn yn sylweddol, does dim pwynt trafod creu galluoedd cynhyrchu newydd. Felly, a fydd y Gweinidog yn cefnogi'r alwad i ddatganoli cynhyrchiant ynni yn llwyr a chwalu monopoli'r grid cenedlaethol, fel y gall Cymru ddatblygu ei gallu ei hun i symud trydan o amgylch y genedl a buddsoddi yn y cymunedau hynny sydd ei angen? Diolch.