Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 24 Ionawr 2023.
Rŷn ni wedi buddsoddi'n sylweddol yn barod mewn gwasanaethau cymunedol arloesol. Mae ein cronfa integreiddio rhanbarthol yn darparu dros £144 miliwn i gefnogi chwe model cenedlaethol o ofal integredig. Mae'r modelau hyn yn cynnwys trefniadau i atal a chydlynu yn y gymuned, gofal cymhleth yn nes at adref a gwasanaethau gartref o'r ysbyty.
Dwi'n cymryd y cyfle heddiw i nodi eto fy mod i'n disgwyl i'r buddsoddiad rŷn ni wedi ei ddarparu eisoes i'r gwasanaeth iechyd, yr awdurdodau lleol a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol gael ei ddefnyddio hefyd i ddod â'r holl wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal at ei gilydd, ac mae hynny'n cynnwys AHPs.
Rhaid i ofal sylfaenol a chymunedol ddod yn lleoliad arferol i AHPs weithio. Dylai'r gweithlu yma gael ei drefnu drwy wasanaethau cymunedol sydd wedi'u hintegreiddio'n dda ac sy'n cynnwys yr holl ystod o sgiliau AHP. Er mwyn gweithredu'r rhaglen garlam i ddatblygu'r clystyrau, mae'n hollbwysig bod cyfran uwch o'r gweithlu AHP yn gweithio mewn timau a hybiau integredig mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.
Rŷn ni'n gwybod bod llawer o bobl hŷn sy'n fregus neu sydd â mwy nag un cyflwr yn gadael yr ysbyty gyda llai o allu i symud ac yn llai annibynnol na phan aethon nhw i mewn. Dyna pam mae'r canllaw diweddar ar wella llif cleifion mewn ysbytai yn nodi y dylai'r gwasanaeth iechyd a gofal ddefnyddio egwyddorion 'gartref yn gyntaf' a discharge to recover then assess. Bydd hyn yn helpu pobl i fynd adref cyn gynted â phosibl, gyda'r gwasanaeth asesu ac ailalluogi cywir ar gael iddyn nhw yn y gymuned.
Mae'r timau adnoddau cymunedol sy'n bodoli yn barod yn rhanbarthau pob un o'r byrddau iechyd, yn ogystal â'r timau ailalluogi a'r gwasanaethau adsefydlu, yn asgwrn cefn i'r strwythur cymunedol sydd ei angen i wella gofal i'n poblogaeth. Os ydyn ni'n gallu cael pethau yn iawn i bobl ag anghenion cymhleth, rŷn ni'n gallu eu cael yn iawn i bawb.
Pwrpas y buddsoddiad yma yw cynyddu capasiti AHP mewn gwasanaethau adsefydlu ac ymyrraeth gynnar yn y gymuned. Bydd hyn yn golygu bod dewisiadau ar gael sy'n saff yn glinigol, yn lle mynd â phobl i'r ysbyty. Fe fydd hefyd yn hwyluso'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel ac effeithiol.
Bydd amseriad y cyhoeddiad yma yn helpu cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol i wneud yn siŵr bod cymaint o swyddi â phosibl ar gael ar gyfer y graddedigion newydd a fydd yn ymuno â'r gweithlu yn yr haf. Wrth gynyddu capasiti'r gwasanaeth cymunedol drwy greu'r rolau gweithwyr iechyd ychwanegol hyn, fe fyddwn ni’n gallu darparu gofal sylfaenol a chymunedol sydd wedi’u hintegreiddio’n dda. Bydd hyn yn ein helpu hefyd i daclo rhywfaint o’r pwysau sydd ar ein system iechyd a gofal ar hyn o bryd.