6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu Nifer y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 24 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:06, 24 Ionawr 2023

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Yn ei hanfod, dwi innau hefyd yn croesawu'r bwriad yn y fan hyn i wneud buddsoddiad yn y gweithlu. Mae'r gweithlu iechyd, wrth gwrs, yn eang iawn, mae o'n amrywiol iawn, ac mae gwasanaeth iechyd a gofal cynhwysfawr a chynaliadwy yn gorfod tynnu at ei gilydd yr ystod eang yna o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae'n dda ein bod ni rŵan yn siarad am yr allied health professionals, rhywbeth fyddai ddim wedi digwydd flynyddoedd yn ôl—doctors a nyrsys fyddai hi wedi bod flynyddoedd mawr yn ôl. Erbyn hyn, rydyn ni yn gwerthfawrogi'r gweithlu ehangach yna. Mae'n dda gweld, ynghanol y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd a gofal, y buddsoddiad yma yn cael ei wneud. 

Dwi'n meddwl yn nhermau'r cynllun pum pwynt yma rydyn ni'n mynd i fod yn ei drafod yma yn y Senedd yfory—y cynllun rydyn ni fel plaid wedi'i gyhoeddi heddiw yma ar gyfer dyfodol yr NHS—a dwi yn gweld yn y cyhoeddiad yma nifer o elfennau yn cael eu hadlewyrchu. Y pwynt cyntaf rydyn ni'n ei wneud ydy ynglŷn â'r angen am gyflog teg. Tybed lle mae'r Gweinidog yn ystyried rôl cyflog, achos mae yna weithwyr allied health professionals sydd yn rhan o anghydfodfeydd cyflog ar hyn o bryd. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â lle i osod lefel cyflog teg yn y broses yna o greu gweithlu bodlon sydd yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol. 

Dwi'n croesawu'r sylwadau rydyn ni newydd eu clywed ynglŷn â hyfforddi mwy o weithwyr. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau hefyd ynglŷn â rhoi hyfforddiant proffesiynol pellach i'r rheini sydd o fewn y gweithlu yn barod. Mae caniatáu i weithwyr weithio o fewn eithaf eu competence yn bwysig iawn, ac un o'r cwynion yn aml iawn ydy bod pobl yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael y rhyddid i wneud yr hyfforddiant ychwanegol sydd ei angen er mwyn gwella o hyd, ac ymestyn eu sgiliau. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sylwadau ar hynny.

Mi fydd y Gweinidog yn gwybod gymaint o bwyslais dwi'n licio ei roi ar yr ataliol. Dwi'n tynnu sylw at y ffaith bod yr ataliol yn gallu golygu pethau ymhell yn y dyfodol, ond hefyd paratoi heddiw ar gyfer heriau yfory a'r wythnos nesaf, ac mae gan yr AHPs rôl allweddol yn y fan yna yn paratoi pobl ar gyfer triniaeth, trio atal damweiniau, ac ati. Mae'n bosibl y gallai'r Gweinidog adlewyrchu ar y rôl ataliol yna.

Ac yn olaf, mae yna lawer o sylw, wrth gwrs, wedi cael ei roi yn ddiweddar i'r junction yna rhwng iechyd a gofal—y delayed transfers of care rydyn ni wedi rhoi llawer sylw iddynt yn ddiweddar. Mae angen cynyddu'r capasiti yna ar gyfer tynnu pobl allan o'r lleoliadau acíwt, tynnu nhw o'r ysbytai. A gaf i awgrym gan y Gweinidog lle mae hi'n gweld rôl yr allied health professionals mewn creu'r capasiti yna er mwyn helpu tynnu pobl, nid eu rhoi nhw yn eu cymuned heb becyn gofal—mae yna bryderon am hynny—ond i wneud yn siŵr bod y gweithwyr penodol yma yn gallu helpu i ganiatâu i bobl symud allan o'r ysbytai ac i mewn i leoliadau gofal eraill, yn cynnwys eu cartrefi eu hunain?