Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 24 Ionawr 2023.
Mae’n eithaf naturiol, wrth gwrs, i bobl holi beth yw goblygiadau’r canlyniadau diweddaraf yma i’n gwaith ni. Yn gyntaf i gyd, dwi am i chi fod yn siŵr ein bod ni'n dal wedi ymrwymo’n llwyr i filiwn o siaradwyr a hefyd ddyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Ac mae’n bwysig nodi hefyd bod Cymraeg 2050 ond wedi bod yn ei le am lai na phedair blynedd adeg cynnal cyfrifiad 2021. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod cyfnod sylweddol o’r cyfnod yna wedi cael ei darfu gan bandemig COVID-19. Er gwaethaf y pandemig, rŷn ni wedi gweithio’n galed i greu sylfaen angenrheidiol i’r strategaeth, yn arbennig ym myd addysg, a byddaf i’n gwneud datganiad bellach am addysg a’r Gymraeg yr wythnos nesaf.
Er mwyn cyrraedd y nod, mae wedi bod yn glir erioed bod angen lot mwy na jest ni yn Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni i gyd—penaethiaid ysgolion, busnesau, gwleidyddion, awdurdodau lleol, arweinwyr sefydliadau—gymryd mwy o gyfrifoldeb am Gymraeg 2050 a’i gwneud hi’n fwy o flaenoriaeth fel rhan ganolog o bopeth rŷn ni'n ei wneud. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Mae hynny’n golygu efallai fod angen newid y ffordd mae’r 'ni' ehangach yn gweithio a’r pethau rŷn ni’n eu gwneud. Ac yn ystod y misoedd sy’n dod, fe fyddaf i’n gwneud tipyn o bethau fy hun. Er enghraifft, dwi am edrych yn galed ar sut mae’r Gymraeg yn gweithio yn ein hysgolion Saesneg ni.
Mae dirywiad pellach yn ein cymunedau Cymraeg. Mae’r comisiwn cymunedau Cymraeg, a wnes i lansio fis Awst diwethaf, wedi estyn galwad am dystiolaeth. Mae gen i ddiddordeb cael gwybod beth yw’r hyn sy'n dod i law. A dwi’n arbennig o awyddus i ddeall mwy am ddiboblogi a'r normal newydd, ac a oes yna gyfleoedd newydd i’r ardaloedd hynny ffynnu mewn ffordd wahanol. Mae mentrau cymdeithasol yn ffordd i gymunedau afael yn eu dyfodol ac mae yna enghreifftiau gwych yn barod. Dyna pam dwi wedi rhoi £400,000 eleni i fudiad Cwmpas weithio mewn partneriaeth gyda ni i gynyddu nifer y rhain sy’n gweithio drwy’r Gymraeg.
Maes arall sy’n bwysig i ni yw’r oedran 0 i 4 oed. Mae tyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd i barhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, felly mae gweithio gyda theuluoedd i roi llwybr i bawb i mewn i’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg. Ond mae’n werth nodi hefyd bod y grŵp yma o blant yn mynd yn llai o ran nifer, felly mae’n bwysig i ni gwneud yn siŵr bod cynifer ag sy’n bosibl yn manteisio ar yr hyn sydd ar gael.
Bydd cohort arall ar ein rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog. Mae’r rhaglen yma i uwch arweinwyr drafod sut mae gwneud Cymraeg 2050 yn eu sefydliadau nhw. Mae hyn am werthoedd personol a sefydliadol, a sut mae dod â chalonnau a meddyliau gyda ni. Mae hefyd yn golygu gwrando’n ddwfn ar straeon pobl am eu profiad eu hunain o’r Gymraeg. Mae cynllunio gweithlu digonol i alluogi defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn hollbwysig, ac yn bwysicach fyth i’r bobl ifanc sy’n dod drwy’r system addysg. Bydd ein partneriaid ni mor bwysig ag erioed i sicrhau bod cyfleoedd i ni i gyd ddefnyddio'r Gymraeg. Dyna pam dwi newydd gymeradwyo dros £260,000 yn ychwanegol iddyn nhw yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
Hoffwn i, dros y flwyddyn nesaf, ddeall mwy am y meysydd canlynol: yn gyntaf, pam nad yw cynifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn hyderus i’w defnyddio hi ar ôl gadael ysgol? Ai diffyg cyfle yw’r broblem neu ffurfioldeb iaith addysg, neu’r ddau, efallai? Ond, i fynd nôl at ffurfioldeb y Gymraeg, mae hwn yn rhywbeth dwi eisiau edrych arno fe’n fwy manwl. Mae sawl un wedi codi gyda fi bod y Gymraeg wedi troi i fod yn iaith cyfieithu, a ddim iaith sy’n eu cyffwrdd nhw fel pobl. A dwi eisiau gwybod beth ymhellach sydd gan dechnoleg i’w gynnig i wneud y Gymraeg yn haws ei defnyddio ac i wneud y Gymraeg yn gyfredol i blant a phobl ifanc. Dwi felly am gadarnhau y byddaf i’n parhau i fuddsoddi yn y maes pwysig yma, a dwi am weld ein cyfrifiaduron yn gallu bod yn siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.
Felly, fy neges heddiw yw bod rhaid i ni barhau i fod yn optimistaidd am ein hiaith ni. Dwi’n teimlo bod siom y canlyniadau wedi sbarduno brwdfrydedd newydd i weithio mewn ffyrdd gwahanol er lles y Gymraeg. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill wedi dangos yn glir bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n gallu dod â ni at ein gilydd, pa faint bynnag ohoni hi rŷn ni’n ei siarad. Mae mwy o falchder yn ein hiaith a’n hunaniaeth ni nag erioed o’r blaen, a dwi’n hyderus bod modd i ni gynyddu nifer ein siaradwyr, bod modd i bawb fod ar daith iaith a bod modd i ni roi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’n bywydau bob dydd.