Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad—mae yna dipyn o waith cnoi cil yn y fan honno. Mae hi'n bryder, wrth gwrs, gweld y cwymp yng Ngwynedd, er enghraifft. Mae'n rhaid i fi, ar yr adeg yma, rŵan, gymryd y cyfle i dalu teyrnged i waith rhagorol Cyngor Gwynedd dros gyfnod o ddegawdau er mwyn sicrhau bod yn agos i bob plentyn sy'n mynd drwy'r system addysg yno yn rhugl yn y Gymraeg. Ond sut, felly, mae sgwario hynny efo canlyniad y cyfrifiad, sy'n dangos niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn disgyn? Mae'n rhaid bod yna rywbeth arall ar waith yma.
Mae'n demograffeg ni yn dangos ein bod ni'n heneiddio, ac mi rydyn ni'n gwybod bod mudo yn chwarae rhan bwysig, yn enwedig allfudo ein pobl ifanc o gadarnleoedd y Gymraeg. A dyma, o bosib, yr agoriad i ddatrys y broblem yma, ac rydych chi wedi sôn amdano fo yn eich cyflwyniad agoriadol. Mae'n rhaid edrych i mewn i hynny mewn dyfnder, felly. Ymhlith yr holl elfennau sy'n chwarae rhan yn hyn, mae elfen tai—diffyg fforddiadwyedd tai, diffyg argaeledd tai, ac, yr un mor bwysig, mae diffygion isadeiledd er mwyn cynnal economi hyfyw. Felly, dwi am ofyn i chi sicrhau bod y comisiwn rydach chi'n ei gynnal yn cynnal deep-dive—ymchwiliad trylwyr, manwl—i mewn i allfudo: pam nad yw pobl ifanc yn aros yn y cymunedau hynny, a pha rôl y mae tai a diffyg isadeiledd yn ei chwarae yn hynny?
Yn olaf, mae'n rhaid hefyd sôn am faes technoleg. Dwi'n gweld fy mhlant i, o bump i 15 oed, ac maen nhw'n byw ar Netflix, YouTube, TikTok, ac yn y blaen, a does nemor ddim cynnwys Cymraeg ar y platfformau hynny. Mae'n rhaid edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r platfformau hynny er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg yn well a sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw ar y platfformau modern yma. Diolch.