Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 24 Ionawr 2023.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran ei flaenoriaethau. Rŷn ni wedi sôn eithaf lot am addysg, ond jest i wneud dau bwynt am hynny—yn gyntaf, pa mor bwysig yw'r cynllun trochi i ganiatáu bod unrhyw un sy'n symud i Gymru sydd eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn llwyddo i wneud hynny. Mae gyda ni gronfa nawr, o nawr tan ddiwedd tymor y Senedd, o tua £6.6 miliwn i'w gwario ar hynny. Mae pob rhan o Gymru, pob awdurdod lleol, wedi cael dyraniad o'r gronfa honno. Mae hynny yn ei hunan yn beth calonogol iawn. Fe wnes i gael fy nghyfweld lan llofft yn gynharach heddiw gan ferch chwe blwydd oed, a oedd wedi symud o Loegr, o deulu o Fecsico, i Gymru ym mis Medi, ac fe wnaeth hi fy nghyfweld i yn Gymraeg, ar ôl bod drwy'r system drochi. Mae'r peth yn fwy nag effeithiol; mae e, ar un lefel, yn wyrthiol, i weld pa mor gyflym y mae'r broses drochi'n gallu cael canlyniadau. Dyna'r peth cyntaf. A'r ail beth yw'r ymwybyddiaeth yn yr ysgol o'r Gymraeg fel cyd-destun diwylliannol i addysg pobl ifanc—yn y cwricwlwm, gwaith y siarter iaith, ac ati. Rwy'n cytuno'n llwyr bod hynny'n bwysig.
O ran y pwyslais ar y cymunedau, rŷn ni wedi trafod hynny, wrth gwrs, eisoes mewn amryw o gwestiynau, ond, jest i ddweud, mae hi wir yn bwysig, ynghyd â chwestiwn rhifau, ein bod ni'n edrych ar ddaearyddiaeth yr iaith hefyd. Mae'r Gymraeg mewn sefyllfa lle mae hi'n iaith genedlaethol ond hefyd yn iaith gymunedol, ac mae'r ddau beth yna'n hollbwysig o ran ymateb polisi'r Llywodraeth ac yn ehangach.
Jest ar ei bwynt ynglŷn â hybu, rwy'n cytuno mai un o'r heriau o'n blaenau ni yw her hyder. Mae plant yn gadael ysgol addysg Gymraeg efallai ddim â'r hyder i'w siarad. Mae pobl fel Mike, sy'n medru'r Gymraeg, ond, fel mae e ei hunan yn dweud, ddim â digon o hyder. Dyna'r her nesaf sydd gyda ni—dod o hyd i ble mae pobl yn gallu'r Gymraeg ond bod angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw i'w defnyddio hi, ac mae angen pwyslais cliriach ar hynny, efallai, yn y dyfodol.