Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 24 Ionawr 2023.
Rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. Er ein bod wedi gweld nifer fach o unigolion yn ceisio dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod nôl yn Wcráin, rydyn ni'n dal heb weld newid sylweddol ar hyn o bryd.
Ym mis Rhagfyr, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau trwy ddatganiad ysgrifenedig am gyhoeddiadau ariannol Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r cynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym yn siomedig iawn gyda'r penderfyniad i haneru'r tariff integreiddio bron i £5,900 ar gyfer newydd-ddyfodiaid o 1 Ionawr ymlaen, yn ogystal â'r penderfyniad i beidio â darparu tariff integreiddio blwyddyn 2. Nid yw'r penderfyniadau hyn yn cyd-fynd â chynlluniau adsefydlu eraill ac maen nhw'n lleihau cyllid hanfodol i awdurdodau lleol ar adeg o bwysau cyllidebol aruthrol. O dan gynlluniau adsefydlu eraill, ar y cyfan mae awdurdodau lleol wedi derbyn tua £20,000 y pen dros gyfnod o dair i bum mlynedd. Ar gyfer y rhai yn cyrraedd o Wcráin o 1 Ionawr 2023, bydd hwn ychydig yn llai na £6,000. Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gydraddoldeb ariannu rhwng cynllun Cartrefi i Wcráin a Chynllun Teuluoedd o Wcráin a'r Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin. Yn anffodus, unwaith eto, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gweithredu'r cydraddoldeb hwn, sy'n dwysáu'r pwysau ar awdurdodau lleol.
Roeddem yn falch o weld cadarnhad y bydd taliadau 'diolch' i'r gwesteiwyr yn cael eu hymestyn am yr ail flwyddyn. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd, pan fo lleoliadau lletya'n gweithio'n dda, gall hyn leddfu'r galw am dai a chreu rhwydwaith o gymorth. Mae'r penderfyniad i godi'r taliadau 'diolch' i £500 y mis hefyd i'w groesawu, er ein bod yn siomedig na fydd hyn yn digwydd tan ar ôl 12 mis ar ôl i'r person sy'n cael ei letya gyrraedd.
Oherwydd y pwysau tai ehangach ar draws Cymru, rydym yn gweithio'n ddwysach i ddod o hyd i fwy o westeiwyr sy'n gallu cefnogi Wcreiniaid sydd angen llety. Rydym yn parhau i annog gwesteiwyr posibl i ddod ymlaen a chofrestru diddordeb yn www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain a mynd i un o'r sesiynau 'Cyflwyniad i Westeio' a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Mae lletya yn darparu llety hyblyg a chost-effeithiol sy'n galluogi pobl i adennill rhywfaint o annibyniaeth ac i integreiddio â chymunedau lleol. Nid yw gwesteiwyr ar eu pen eu hunain a gallant gael cefnogaeth wych gan wasanaeth cymorth i westeiwyr Housing Justice Cymru, sy'n cynnig popeth o gyngor ymarferol neu glust i wrando, i gefnogi lleoliadau lletya cadarn a hapus ar gyfer y gwesteiwr a'r gwestai, yn ogystal â chyfeirio at ein gwefan noddfa Llywodraeth Cymru. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan rai a allai letya teuluoedd neu rai sydd ag anifeiliaid anwes.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd werth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24, ond mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd. Rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Cymru i sicrhau ein bod yn gallu tynnu'r cyllid mwyaf posibl i lawr ar gyfer Cymru a'i ddefnyddio'n effeithiol i leddfu rhywfaint o'r pwysau yr wyf eisoes wedi'i grybwyll. Byddwn ni'n gweithio gyda llywodraeth leol i ddeall effaith lawn ar lawr gwlad y cyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth y DU. Mae ein cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys £40 miliwn i gefnogi'r ymateb o ran Wcráin yn 2023-24, gyda'r mwyafrif o hynny ar gyfer cefnogi'r llwybr uwch-noddwr. Byddwn yn edrych ar opsiynau hyfyw o ran llai o gyllid yn yr wythnosau nesaf gan Lywodraeth y DU.
O ran y gefnogaeth yr ydym yn ei darparu ar hyn o bryd, gweithredwyd ein dull diwygiedig o gefnogi llety cychwynnol o 9 Ionawr, gyda gwesteion yn cael gwybod am newidiadau sydd ar y gorwel ar 1 Rhagfyr. Hyd yma, rydym wedi cael adborth cadarnhaol am y newidiadau yr ydym wedi'u gwneud, gyda gwesteion yn mynd ati i ymgysylltu â'r prosesau 'symud ymlaen' sydd gennym ar waith. Yn wir, rydym bellach wedi gweld mwy na 1,200 o bobl a ddaeth drwy'r llwybr uwch-noddwr yn symud ymlaen, ac mae dros 800 ohonyn nhw wedi ymgartrefu mewn llety mwy hirdymor yng Nghymru, fel trefniadau gwesteiwyr neu'r sector rhentu preifat. Rwy'n ddiolchgar am waith awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud ymlaen a gosod gwreiddiau o fewn ein cymunedau lleol.
Ers fy natganiad diwethaf am Wcráin, cynhaliwyd hefyd ein digwyddiad coffáu'r Holodomor cyntaf yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd. Roeddwn i eisiau nodi pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw a'r diolchgarwch a ddangosodd y 60 o Wcreiniaid a ymunodd â ni, mewn glaw trwm, i'w goffáu gyda ni. Cawsom gyfranogiad gan ddirprwy lysgennad Wcráin i'r DU, sefydliadau cymorth Wcráin, yr eglwys uniongred Wcreinaidd, Archesgob Caerdydd, y Dirprwy Arglwydd Raglaw, arweinydd Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru Andrew Morgan, a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol. Arweinydd y digwyddiad oedd caplan anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Cyflawnodd y coffáu ymrwymiad a wnaed yn y Siambr hon ym mis Mai 2022 i goffáu'r Holodomor, ac rydym yn bwriadu parhau â'r gwaith hwnnw yn 2023.