Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 24 Ionawr 2023.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi datgelu pecyn newydd o gymorth milwrol Prydeinig ar gyfer Wcráin, mae'r cymorth, fel ŷch chi wedi sôn, y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gorfod ffoi rhag y rhyfel—menywod a phlant yn bennaf—gan chwilio am noddfa yma, yn druenus o annigonol, a'r lefelau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn bryderus, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio llenwi'r bylchau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer gwersi iaith, trafnidiaeth am ddim, ac yn y blaen. Felly, yn ystod sesiwn craffu gweinidogol ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi sôn, Weinidog, am sut oeddech chi'n gobeithio cael cyfarfod gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch y cymorth yma, ac ŷch chi newydd sôn yn eich ateb chi i Mark Isherwood y bydd hynny'n digwydd yr wythnos nesaf. Felly, a gaf i ofyn beth yn union ŷch chi'n gobeithio ei godi yn benodol yn y cyfarfod hwn, a pha fylchau sydd yna yn y cymorth sy'n tanseilio ein dyhead ni yma yng Nghymru i fod yn genedl noddfa?
Weinidog, fe'ch cwestiynwyd chi yn y pwyllgor hefyd ynghylch y gallu cyllidebol i ddarparu cymorth pe bai pawb o Wcráin a gafodd fisa dan nawdd Llywodraeth Cymru yn dod draw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r gyllideb wedi'i dyrannu ar gyfer nifer y ffoaduriaid o Wcráin y disgwylir iddynt droi lan ac nid y nifer sydd â fisas, ac mae hyn wrth gwrs yn amodol, fel rŷn ni wedi clywed y prynhawn yma, ar unrhyw ddirywiad neu newid mawr newydd yn yr hynt neu natur y rhyfel. Felly, a allech chi roi rhywfaint mwy o eglurder i ni o ran sut y byddwch chi'n ymdrin â'r pwysau cyllidol os bydd Llywodraeth Cymru yn canfod bod eu cyfrifiadau nhw yn anghywir? Beth yn union yw'r ffigwr hwn? A fydd cyllid ar gael os bydd mwy na'r disgwyl yn cyrraedd?
Ac yn olaf, cyn y Nadolig, fe wnaethoch chi ddatganiad yn mynegi eich bwriad i annog ffoaduriaid o Wcráin i symud ymlaen o'u llety cychwynnol dros dro—y canolfannau croeso, wrth gwrs, dan nawdd Llywodraeth Cymru. Ac roeddech chi'n sôn yn eich datganiad heddiw fod 1,200 wedi symud ymlaen; 800 nawr mewn llety preifat neu gyda noddwyr yng Nghymru. Felly, beth yw sefyllfa y 400 arall? Ydyn ni'n monitro lle maen nhw wedi mynd? A hefyd, beth yw'r cynnydd o ran y ffoaduriaid eraill sy'n dal i fod yn y canolfannau croeso ac sydd heb fedru symud ymlaen? Beth yw'r hyn sy'n eu rhwystro nhw rhag symud ymlaen? Diolch.