Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rwy'n drist iawn fod yn rhaid inni orffen sesiwn gwestiynau bwerus a chryf iawn yn y cywair hwnnw. Rwy'n falch iawn o'n safbwynt. Y gwir amdani yw bod gennym gynllun LHDTC+ yn cael ei gyflwyno yn y Siambr hon. Rwy'n gobeithio y caiff gefnogaeth y Siambr gyfan o ran hawliau LHDTC+ a'r camau gweithredu cryf rydym yn eu cymryd. Galwaf arnoch chi, y Ceidwadwyr Cymreig, i ddweud y byddwch chi'n cefnogi’r hyn rydym ni yn Llywodraeth Cymru, gyda’n partneriaid yn y cytundeb cydweithio, yn ei gyflwyno. Wrth gwrs, mae angen inni drin ein gilydd fel gwleidyddion gyda goddefgarwch a pharch. Ac mae hynny'n berthnasol i bob plaid, mae'n rhaid imi ddweud—eich plaid chithau hefyd, Altaf. Ond gadewch inni edrych ymlaen yn awr at dderbyniad cadarnhaol i’r hyn a fydd, rwy'n credu, yn gynllun gwirioneddol arloesol, ac yn gynllun a fydd yn cael ei gydnabod ledled y byd oherwydd ei barch at bobl LHDTC+ yng Nghymru.