Mercher, 25 Ionawr 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno cynllun hybiau cynnes Llywodraeth Cymru? OQ58988
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflog ac amodau gweithwyr y Post Brenhinol yng Nghymru? OQ59003
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Altaf Hussain.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn y Rhyl a Phrestatyn? OQ58989
4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad pobl anabl at wasanaethau cyhoeddus? OQ59000
5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Cyllid a Thollau EF, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth ariannol sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo gyda chostau...
7. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar gynnydd cyfamod yr heddlu? OQ58993
8. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu cyfiawnder data? OQ58996
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor y mae wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gymwyseddau...
2. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith yr ardoll prentisiaethau ar hyfforddiant cyfreithiol yng Nghymru? OQ59002
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i gallu i gynnal treial wythnos pedwar diwrnod yng Nghymru? OQ58997
4. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am sicrhau bod ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 y DU yn gallu manteisio ar arbenigedd y sector cyfreithiol yng Nghymru? OQ58987
5. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU ar Gymru? OQ59004
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli? OQ58999
7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ar y sector cyhoeddus yng...
8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar weithredu'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)? OQ58984
9. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a oes ganddi'r pwerau cyfreithiol i gynnal neu gomisiynu ymchwiliad i sut mae honiadau yn erbyn...
Eitem 3 sydd nesaf, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y rhain yn cael eu hateb gan y Llywydd. Yn gyntaf, Delyth Jewell.
1. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y trafodaethau sydd wedi arwain at staff y Comisiwn yn cyhoeddi streic ar 1 Chwefror? OQ59009
2. Sut mae'r Comisiwn yn hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd? OQ59007
Eitem 4 yw cwestiynau amserol, a bydd yr un cyntaf heddiw gan Jack Sargeant.
1. Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu heb...
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt gan y BBC? TQ714
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni? TQ720
Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Samuel Kurtz.
Nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Eitem 6 y prynhawn yma: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Eitem 7, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon', a galwaf ar Gadeirydd y...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol.
Ac rydyn ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Na. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6, dadl ar...
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, ac os gallai'r Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau perthnasol ledled Cymru i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â statws cyfreithiol hunanadnabod rhywedd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar effaith y gyllideb ddrafft ar gyfiawnder cymdeithasol?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia