Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Diolch i waith Llywodraeth y DU ar gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yng ngogledd Cymru, mae cyfraddau troseddu'n lleihau yn y Rhyl. Ond mewn cyfarfod diweddar gyda’r heddlu lleol, nodwyd mai ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl mor ifanc â 13 oed yw hyd at 75 y cant o’r holl ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl. Yn anffodus, mae diffyg strwythur teuluol cryf a chyfrifoldeb rhieni yn golygu o bosibl fod y bobl ifanc hyn yn troi at droseddu. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yng nghanol tref y Rhyl yn ddiogel, a beth a wnewch i sicrhau nad yw ymddygiad gwrthgymdeithasol y bobl ifanc hyn yn parhau? Diolch.