Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Pe bai Undeb Rygbi Cymru ond yn gallu bod yn debycach i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n haeddu cael eu llongyfarch am gyflwyno cyflogau cyfartal i bêl-droedwyr gwrywaidd a benywaidd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom fynd i'r afael â chasineb at fenywod yn uniongyrchol. Yn ddiweddar, lansiodd Chwarae Teg ddeiseb gyda’r nod o wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel i fenywod ar ôl i bwyllgor cenedlaethol UN Women ar gyfer y DU nodi bod 71 y cant o fenywod yn y DU wedi dioddef aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ein holl fannau cyhoeddus yn ddiogel i fenywod a merched?