Cyfiawnder Data

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 2:17, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r Labordy Cyfiawnder Data, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn diffinio cyfiawnder data fel y

'berthynas rhwng creu data a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at wleidyddiaeth ac effeithiau prosesau sy'n cael eu llywio gan ddata a data mawr'— yn y bôn, tynnu sylw at y niwed a'r peryglon posibl i ddinasyddion. Rydym wedi gweld hyn yn ymchwiliad ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i drais domestig ac anghenion menywod mudol. Dywedodd Elizabeth, o gynghrair Step Up Migrant Women, wrthym, pan wnaethant annog menyw i ddweud wrth yr heddlu am gam-drin domestig, fe wnaethant ei adrodd ar-lein, ac wyth diwrnod yn ddiweddarach, fe gyrhaeddodd llythyr rheolaeth fewnfudo ei thŷ. Ac yn 2019, adroddwyd bod heddlu yn Lloegr wedi cyfaddef bod ganddynt gytundeb ysgrifenedig gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i rannu unrhyw wybodaeth am bobl anabl sy'n cymryd rhan mewn protestiadau hinsawdd. Gwyddom hefyd, yn Hackney, fod yr awdurdod lleol wedi defnyddio cronfa ddata dadansoddi rhagfynegol i asesu pob un o'r 53,000 o blant sy'n byw yno. Fe wnaethant ddefnyddio'r gronfa ddata hon i nodi pa blant a allai fod mewn perygl o gael eu hesgeuluso, gan ddefnyddio eu nodweddion, megis oedran, ethnigrwydd ac amddifadedd, i greu'r sgôr, rhywbeth y byddwn i, yn y bôn, yn ei alw'n 'sgorio dinasyddion'. A'r peth am sgorio dinasyddion, a'r math hwn o ddata sy'n cael ei gasglu mewn sectorau cyhoeddus, yw bod pobl yn hollol anymwybodol fod y data ymddygiadol hwn yn cael ei gasglu; maent yn cael eu hasesu, maent yn cael eu categoreiddio ac nid oes ganddynt unrhyw ffordd o ymladd yn ôl ar hyn a chael unrhyw fath o dryloywder yn ei gylch. Mae ymchwilwyr wedi dadlau bod arferion data wedi cael eu normaleiddio yn ein cymdeithas cyn inni gael cyfle i gynnal trafodaeth gyhoeddus ehangach ar foeseg defnyddio data yn y ffordd hon. Felly, Weinidog, wrth i sgorio dinasyddion barhau i ddatblygu yn y sector cyhoeddus, a ydych yn cytuno bod yn rhaid i'n hawliau dynol yn y byd digidol adlewyrchu ein hawliau dynol yn y byd go iawn?