Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch am y cwestiwn. Fel y mae'r cynllun wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, gallai'r Bil roi awdurdod dilyffethair i Weinidogion Llywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn groes i'r setliad datganoli sydd wedi ei sefydlu'n ddemocrataidd. Rydym wedi ailadrodd i Lywodraeth y DU, ar lefel swyddogol a gweinidogol, fod angen parchu a gwarchod ein setliad datganoli.