Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw ac yn wir mae cynnydd wedi bod, gan weithio gyda phartneriaid yn y proffesiwn cyfreithiol, gyda'r Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx), gyda cholegau a darparwyr addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gymhwyster cyfnod sylfaen lefel 3 yn awr a chymhwyster uwch lefel 5 o'r cymhwyster proffesiynol CILEx newydd, y CPQ, ond mae llawer yn y proffesiwn, yn enwedig cyfreithwyr, a Chymdeithas y Cyfreithwyr yn eu plith, yn credu bod angen rhaglen brentisiaeth lefel 7 ar gyfer cyfreithwyr yng Nghymru hefyd. Mae gennym broblemau o hyd gyda'r ardoll brentisiaethau a'r ffaith ei bod yn cael ei chodi ar gwmnïau Cymreig, ond nid oes gennym gyfrifoldeb llawn i allu ei defnyddio yn y ffordd y byddem eisiau ei defnyddio yng Nghymru. Ond tybed: a wnaiff ymrwymo i weithio gyda'r sefydliadau partner hynny i ystyried sut y gellir bwrw ymlaen â hyn maes o law?