Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 25 Ionawr 2023.
Os caf dynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiant. O'r 12 Cwnsler y Brenin, a'r 50 bargyfreithiwr iau a benodwyd i ymchwiliad COVID y DU, nid oes yr un ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru. Nid dyna'r sefyllfa yn yr Alban na Gogledd Iwerddon wrth gwrs. Ni fyddent byth yn goddef hynny, na fyddent, Gwnsler Cyffredinol? Mae'n ymddangos mai Cymru, unwaith eto, yw'r genedl a anghofiwyd—dadl gref arall dros ymchwiliad COVID i Gymru. Pa gamau a gymerwyd gennych i unioni'r sefyllfa a sicrhau bod ymchwiliad y DU yn adlewyrchu'r system ddatganoledig yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.